Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf - Dyma`ch Cymuned Chi - Gwnewch wahaniaeth!!!
Nod Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf, drwy fudiadau cymunedol bach, mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yw cefnogi unrhyw fath o weithgarwch syn cynnwys pobl leol o bob oed iw helpu i wneud gwahaniaeth go iawn ir gymuned y maent yn byw ynddi.
Eich cefnogi chi i gefnogi’ch cymuned........
Gellir dyfarnu grantiau hyd at £5,000 i adeiladu ar weithgareddau presennol neu i sbarduno gweithgareddau newydd.
Rhaid i’r gweithgareddau roi rhyw gymaint o fudd economaidd, amgylcheddol neu ddiwylliannol.
Bydd prosiectau'n ceisio annog mwy o weithredu cymunedol ac adfer ysbryd a balchder cymunedol i wneud ardal Cymunedau yn Gyntaf yn lle gwell i fyw ynddo.
Gwneud gwahaniaeth i’ch cymuned... ..
Croesewir ceisiadau gan ystod eang o brosiectau a gweithgareddau cymunedol gan gynnwys cerddoriaeth a’r celfyddydau.
Gall eich grwp wneud cais os ydych chi:
• yn fudiad bychan dan arweiniad y gymuned a / neu yn grwp di-elw gydag incwm blynyddol dan £150,000;
• yn gweithio mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf a bod eich grwp yn cynnwys pobl o'r ardal honno, neu os ydych y tu allan i ffiniau Cymunedau yn Gyntaf, rhaid i’r buddiolwyr fod yn byw mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf;
Dydd Gwener 29 Ionawr 2010 yw'r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau
I gael rhagor o wybodaeth neu becyn ymgeisio, cysylltwch â Llinell Gymorth Cymunedau yn Gyntaf ar 0800 587 8898 / help@wcva.org.uk.
| Cymunedau yn Gyntaf Ardaloedd Cymwys | doc |
| Canllawiau a nodiadau i ymgeiswyr | doc |
Comments



Register and create your free account to post comments