Chwilio
Croeso i to Canolfan Wybodaeth Cymunedau`n Gyntaf
03/09/2010

Username

Password

Create new account

Cadw Carbon Cymru: Cynllun ymarferol cymunedol ar gyfer arbed carbon yng Nghymru

Bydd C3 yn galluogi cymunedau yng Nghymru i wneud y canlynol:

Lleihau’r nwyon tŷ gwydr a ryddhânt a’r effaith a gân nhw ar yr amgylchedd;

Addasu i’r effeithiau anochel fydd yn digwydd yn ystod ein bywydau;

Cadw ac ychwanegu at gronfeydd carbon presennol yr amgylchedd.

 

Mae angen cymorth ariannol ar lawer o gymunedau yng Nghymru i’w cynorthwyo i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Tra bo grwpiau cymunedol yn gallu ymgeisio am ystod o grantiau yn aml nid oes digon ohonynt ar gael ac mae angen dod o hyd i gyllid cyfatebol. Diben C3 yw gwneud gwahaniaeth i lawer o’r prosiectau hyn drwy roi grantiau bychain a/neu fenthyciadau fydd yn galluogi i nifer o’r prosiectau yma i fynd rhagddynt. Bwriad C3 yw cefnogi ystod eang o fentrau cymunedol sy’n mynd i’r afael â newid hinsawdd

Bydd C3 yn rhoi cefnogaeth i gymunedau leihau allyrion nwyon tŷ gwydr ledled Cymru drwy fod yn gyfryngwr rhwng grwpiau cymunedol a chyfranwyr neu fuddsoddwyr. Bydd C3 yn sefydlu cronfa ddim er elw, hygyrch, o grantiau bychain a benthyciadau i gynorthwyo cymunedau i leihau faint o ynni sy’n cael ei ddefnyddio a faint o nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu rhyddhau yng Nghymru. Caiff hyn ei gyflawni drwy roi mesurau arbed ynni ar waith, drwy brosiectau cynhyrchu ynni adnewyddol a phrosiectau’n ymwneud â’r tir, gan gynnwys storio Carbon.

Bydd y cynllun yn rhoi cefnogaeth i brosiectau sy’n mynd i’r afael â thri nod craidd:

1. Effeithlonedd Ynni: Gall prosiectau gynnwys gwaith gyda grwpiau cymunedol, cymdeithasau tai i roi cynlluniau arbed ynni ar waith, prynu bwyleri arbed ynni, systemau gwres ac ynni cyfunol, offer a golau arbed ynni. Un o amodau cael y grant fyddai prynu trydan gan ddarparwr ynni adnewyddol cymeradwy.

2. Cynhyrchu Ynni Adnewyddol: Rhoddir cefnogaeth i’r rhan fwyaf o gynlluniau ynni adnewyddol, gan gynnwys gwynt, gwres daearol, llanw, tonnau, cynlluniau dŵr-drydan bychain, ffotofoltaidd, gwres solar a biomas lleol. Fodd bynnag, nid yw C3 yn bwriadu ariannu prosiectau biodanwydd.

3. Prosiectau arddangos a gwerthuso: Bydd nifer fechan o brosiectau arddangos yn cael eu sefydlu er mwyn:

• Profi a gwerthuso dulliau technolegol arloesol o leihau allyrion;

• Dangos, mewn ffordd sy’n bosib ei chofnodi, sut i leihau allyrion neu storio carbon drwy newidiadau yn y ffyrdd o ddefnyddio tir, er enghraifft carbon pridd neu drin coetiroedd.

• Lleihau’r difrod mae sychder, llifogydd a mathau eraill o dywydd eithriadol yn gwneud i’n cymunedau, ein hisadeiledd a’n heconomi.

 

Caiff prosiectau cymwys eu derbyn o blith y canlynol:

• Mentrau cymdeithasol

• Prosiectau tir cymunedol

• Cynghorau cymuned

• Grwpiau gwirfoddol a chymunedol

 

Ken Moon 029 20 649750 
Ken.moon@cylch.org.uk

Comments

ArrowMethu dod o hyd i'r wybodaeth yr ydych ei angen? Request information

 


Welsh Assembly Government