Chwilio
Croeso i to Canolfan Wybodaeth Cymunedau`n Gyntaf
03/09/2010

Username

Password

Create new account

Hwb o 3m i Gronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf yng Nghymru

Mae ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ledled Cymru am gael dros £3m gan Gronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf ar gyfer 2009/2010.  

 

Ers ei sefydlu yn 2002, mae Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf wedi cefnogi dros 8,800 o grwpiau gwirfoddol bach sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned ac annog mwy o weithredu cymunedol er mwyn gwella eu hardal leol.

 

Mae’r Gronfa wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac mae’r prosiectau a ariannwyd wedi cynnwys: cymunedau lleol yn cyd-dynnu i drefnu i lanhau eu hystadau, prynu cyfarpar y mae ei angen i roi hwb i grwpiau ddechrau, a gwella cyfleusterau sy’n eiddo i’r gymuned.

 

Mae effaith yr arian yn y tymor hwy yn cynnwys grymuso ac annog mwy o weithredu cymunedol ac adfer ysbryd cymunedol, balchder a pherchenogaeth.

 

Meddai Phil Fiander, Cyfarwyddwr Menter WCVA: “Mae’n bleser gan WCVA roi mwy o arian i Gronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf. Mae’r galw parhaus, a’r effaith gadarnhaol y mae’r Gronfa Ymddiriedolaeth wedi’i chael ar gymunedau lleol, mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ledled Cymru, yn dangos bod angen cefnogaeth o’r fath.”

 

Mae’r cynllun Grantiau poblogaidd, sydd wedi’i anelu at grwpiau lleol bychain mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, yn croesawu ceisiadau gan ystod o brosiectau cymunedol, gan gynnwys cerddoriaeth a’r celfyddydau.

 

Gall mudiadau a hoffai wneud cais i’r Gronfa Ymddiriedolaeth, neu a hoffai gael mwy o wybodaeth am raglen Cymunedau yn Gyntaf, gysylltu â Llinell Gymorth Cymunedau yn Gyntaf ar (800 587 8898.

 

Nodiadau i Olygyddion

 

Nod Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf (CYCG) yw cefnogi unrhyw fath o weithgaredd sy’n cynnwys pobl leol, drwy sefydliadau cymunedol bychain sy’n rhoi budd i’r gymuned. Croesewir ceisiadau gan ystod o brosiectau cymunedol gan gynnwys cerddoriaeth a’r celfyddydau. Rhaid i’r gweithgareddau roi rhyw gymaint o fudd economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol neu ddiwylliannol i bobl sy’n byw yn un o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. 

 

Mae dros 180 o ardaloedd ledled Cymru yn gymwys i dderbyn cymorth gan Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf. Pennwyd yr ardaloedd hyn yn Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf. Mae rhestr o’r ardaloedd cymwys ar gael drwy gysylltu â Llinell Gymorth Cymunedau yn Gyntaf (0800 587 8898 neu e-bostiwch help@wcva.org.uk

 

Mae Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf yn gynllun a noddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Gweinyddir y gronfa gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).

 

WCVA yw llais y sector gwirfoddol yng Nghymru, ac mae ei 1,800 a mwy o aelodau yn cynnwys amrywiaeth helaeth o sawl mudiad cenedlaethol o bwys sy'n gweithio ar faterion megis gwirfoddoli, tai, adfywio economaidd, gofal plant, datblygu cymunedol, cludiant, yr amgylchedd ac iechyd.

 

 

Rhagor o wybodaeth: Helen Wilson, Swyddog Gweithrediadau, Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf ( 02920 431 762 (dydd) - * hwilson@wcva.org.uk

 

Gallwch dderbyn y pecyn ymgeisio newydd sbon trwy gysylltu â llinell gymorth Cymunedau yn Gyntaf ar 0800 587 8898 neu e-bostiwch help@wcva.org.uk

Pecyn Cais Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf doc
Llythyr pdf
Canllawiau doc
Ffurflen gais doc

Comments

ArrowMethu dod o hyd i'r wybodaeth yr ydych ei angen? Request information

 


Welsh Assembly Government