Chwilio
Croeso i to Canolfan Wybodaeth Cymunedau`n Gyntaf
07/09/2010

Username

Password

Create new account

Hyfforoddiant WCVA ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf
Hyfforoddiant WCVA ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf

 

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cefnogi hyfforddiant a dysgu mewn Partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf mewn tair ffordd:

Yn ystod 2009 bydd y rhaglen genedlaethol yn cynnwys hyfforddiant ar: ‘Deall Cymunedau yn Gyntaf’; plygu rhaglenni a’r Gronfa Canlyniadau; gweithio gyda darparwyr gwasanaeth; cynhwysiant ariannol; a thlodi plant. 

Cyrsiau undydd fydd craidd y rhaglen hyfforddi, a'r rheini wedi'u cynllunio i godi ymwybyddiaeth a gwella gwybodaeth pobl am y pwnc ac i ddatblygu syniadau am beth y gall eich Partneriaeth ei wneud. Byddwn hefyd yn rhedeg rhaglen dreigl o gyrsiau gloywi a chynefino a fydd yn para am dridiau, ac yn datblygu cwrs deuddydd er mwyn edrych yn fanylach ar weithio gyda darparwyr gwasanaeth.

Mae gan Bartneriaethau eu blaenoriaethau lleol eu hunain ar gyfer hyfforddiant, a gallant ddefnyddio eu cyllidebau hyfforddi eu hunain yn unol â hynny. Bydd WCVA yn sicrhau bod yr hyfforddiant a gynigiwn fel rhan o raglen genedlaethol Cymunedau yn Gyntaf yn cyd-fynd â hynny, a ddim yn ei ddyblygu. Pan fydd yn bosibl, byddwn yn defnyddio darparwyr hyfforddiant lleol ac yn annog aelodau a staff y Bartneriaeth i feithrin eu sgiliau fel hyfforddwyr. Hefyd, byddem yn fodlon gweithio gyda Phartneriaethau unigol neu gyda grwpiau o Bartneriaethau i ddatblygu hyfforddiant ar bynciau nad ydynt yn rhan o'r rhaglen genedlaethol.

Rai wythnosau cyn pob cyfres o gyrsiau byddwn yn dosbarthu gwybodaeth am gynnwys a threfniadau pob cwrs, ynghyd â ffurflenni archebu, ac yn gofyn i chi archebu eich lle. Codir ffi fechan, tua £25 + TAW y diwrnod i bob cyfranogwr, at y costau.

Swyddog Hyfforddiant Cymunedau yn Gyntaf WCVA – Megan Evans.

Rheolwraig Contractau Cymunedau yn Gyntaf – Alice Greenlees.

I gael gwybod mwy am raglen hyfforddi WCVA ar gyfer Partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf, gallwch gysylltu â ni drwy linell gymorth Cymunedau yn Gyntaf ar 0800 587 8898, neu anfon e-bost atom ar help@wcva.org.uk, neu anfon neges testun atom ar 07797 805628.

Megan Jones
Swyddog Gwybodaeth
mjones@wcva.org.uk

Comments

ArrowMethu dod o hyd i'r wybodaeth yr ydych ei angen? Request information

 


Welsh Assembly Government