Llangeinor - Your Community DVD
Roedd aelodau Partneriaeth Llangeinwr yn chwilio am ffordd o ddangos i’r gymuned leol pa newidiadau oedd wedi digwydd ers sefydlu Cymunedau yn Gyntaf. Roedd y rhan fwyaf o aelodau’r Bartneriaeth yn teimlo ei bod yn ddigon anodd ceisio egluro i’w ffrindiau a’u cymdogion beth yn union oedd Cymunedau yn Gyntaf a sut y gallai helpu pobl leol mewn amrywiaeth o ffyrdd.
Ar ôl rhywfaint o drafod ynglŷn â’r ffordd orau o roi gwybodaeth i’r gymuned ehangach, penderfynwyd y gellid cynhyrchu DVD i dynnu sylw at waith pobl leol i gynnal gweithgareddau a chyfleusterau ar gyfer y gymuned. Ffilmiwyd y DVD dros gyfnod byr heb brin ddim cyfarwyddiadau gan ein tîm ni. Rhoddwyd manylion cyswllt arweinwyr y grŵp i’r tîm ffilmio a threfnwyd iddynt gyfarfod a ffilmio eu gweithgaredd. Felly nid oedd gan y Bartneriaeth unrhyw reolaeth ar yr hyn a ddywedid neu a fyddai’n cael ei ffilmio!
Yna dosbarthwyd y DVD wedi ei gwblhau i bob cartref yn y ward. Mae’r adborth wedi bod yn wirioneddol bositif gyda llawer o bobl leol yn dweud pa mor ‘arbennig’ y teimlent oedd y DVD. Doedd rhai hyd yn oed ddim yn sylweddoli beth oedd ar gael, hyd yn oed yn lleol. Mae’r grwpiau wedi elwa gyda mwy o bobl yn dod i’r cyfarfodydd a mwy o gefnogaeth yn gyffredinol i’w gwaith yn y gymuned
Comments



Register and create your free account to post comments