Maer daith ddysgu i drigolion lleol Blaenymaes, Portmead a Phenplas yn dechrau ar garreg y drws!
Mae Ymddiriedolaeth Datblygu Blaenymaes, Portmead a Phenplas, sef y Bartneriaeth Cymunedau yn Gyntaf leol, wedi mynd â dysgu at garreg drws y gymuned leol. Drwy ddeall eu hanghenion o ran dysgu ac addysg, y llwyddiant fu cadw’r dysgu yn syml ac yn hygyrch, gyda’r gefnogaeth a’r fantais o ddatblygu’r profiad hwn yn ddysgu a / neu wybodaeth bellach.
Cyflawni Fframwaith Gweledigaeth Cymunedau yn Gyntaf: Mae’r prosiect yn cefnogi Thema Addysg, Hyfforddiant a Sgiliau’r Fframwaith Gweledigaeth yn bennaf.
Ers 2001, mae Ymddiriedolaeth Datblygu Blaenymaes, Portmead a Phenplas, sef y Bartneriaeth Cymunedau yn Gyntaf leol, wedi darparu addysg i oedolion yn y gymuned leol. Drwy ymgysylltu ac ymgynghori gyda thrigolion lleol a chyfagos, mae Ymddiriedolaeth Datblygu Blaenymaes, Portmead a Phenplas wedi nodi bod angen darparu addysg i oedolion i’r gymuned oherwydd bod yno drigolion sydd ag anghenion o ran sgiliau sylfaenol nad ydynt efallai yn gallu fforddio cludiant i brif gampws y colegau a’r prifysgolion lleol. Mae gan rai gyfyngiadau ar eu hamser hefyd oherwydd bod eu plant yn yr ysgol.
O ganlyniad i’r ymgynghoriad hwn, mae Ymddiriedolaeth Datblygu Blaenymaes, Portmead a Phenplas wedi datblygu system addysg ‘carreg y drws’ sydd wedi bod yn arbennig o lwyddiannus dros yr 8 mlynedd ddiwethaf. Mae’n darparu ystod eang o gyrsiau i weddu i bob oed a gallu, gan gynnwys dosbarthiadau cyfrifiaduron i ddechreuwyr. Yna gallant symud ymlaen i feysydd eraill fel golygu ‘photoshop’, dylunio ar gyfer y we, newyddiaduriaeth ffotograffiaeth, cynnal cyfrifiaduron, cyfrifon gan ddefnyddio Excel, hanes teulu a chymaint mwy.
I’r rhai hynny nad oes â diddordeb brwd mewn cyfrifiaduron, darperir Tystysgrif Sylfaen yn y Dyniaethau sy’n ymdrin â meysydd fel cymdeithaseg, seicoleg, llenyddiaeth, hanes a chwnsela.Mae Tai Chi, ysgrifennu caneuon, mathemateg, Saesneg, Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) ar gael hefyd, a’u grwpiau cymdeithasol gan gynnwys ‘Crafty Friends’ a’r ‘Crazy Computer Club’.
Yn y Ganolfan Adnoddau Gweithredu (ARC), lleoliad yr Ymddiriedolaeth Datblygu, mae 4 cyfrifiadur hefyd yn yr ardal ‘Mynediad Agored’. Mae hyn yn golygu bod croeso i drigolion lleol ddod a defnyddio’r cyfrifiaduron unrhyw amser am ddim. Oherwydd bod cymunedau difreintiedig o fewn yr ardal leol, nid oes gan bawb gyfrifiadur yn y cartref y maent yn gallu ei ddefnyddio. Mae trigolion lleol yn defnyddio’r cyfrifiaduron i chwilio ar y rhyngrwyd, ysgrifennu ceisiadau am swydd a’u CV’s, a darllen negeseuon e-bost ac mae plant hefyd yn gwneud eu gwaith cartref arnynt.
Mae Ymddiriedolaeth Datblygu Blaenymaes, Portmead a Phenplas yn gweithio mewn partneriaeth gydag Ability Net, prosiect a gyllidir gan y loteri, i ddarparu meddalwedd ac offer hygyrch a fydd yn cynorthwyo’r rhai hynny gydag anableddau, fel nam ar y golwg neu gryd cymalau, i ddefnyddio’r cyfrifiaduron. Drwy’r cymorth hwn, maent yn gallu darparu asesiad ar-lein i weld pa gymorth sy’n angenrheidiol.
Cydnabuwyd gwaith yr ARC ac yn 2007 enillodd Wobr Adfywio Cymunedol yr Arglwydd Faer am y Cynllun Addysg Gorau a’r Prosiect Cyffredinol Gorau yn Abertawe. Cafodd Ganmoliaeth Uchel hefyd ddwy flynedd yn ddiweddarach yn 2009.
Mae’r prosiect yn bodloni Thema Addysg, Hyfforddiant a Sgiliau Fframwaith Gweledigaeth Cymunedau yn Gyntaf. Drwy ymgynghoriadau â’r trigolion lleol, cyflenwyd yr angen i ddatblygu’r dull o gyflwyno addysg ar ‘garreg y drws’ i wella ymgysylltiad a defnyddioldeb gyda’r buddiolwyr lleol.Canlyniad y prosiect fu gweld trigolion lleol yn ennill sgiliau drwy gyrchu at addysg yn seiliedig ar y gymuned, sy’n eu gwneud yn fwy parod am swyddi ac maent wedi chwilio am waith, gan gynnwys dod yn aelodau staff. Mae trigolion lleol yn cyrchu at ddysgu sylfaenol yn yr ARC fel man cychwyn. Mae hyn yn datblygu eu hyder a’u gwybodaeth, a fydd yn eu gwneud yn barod i symud ymlaen i gyrsiau pellach yn y coleg neu’r brifysgol. Mae gan y prosiect ddysgwyr sydd bellach wedi ymddeol ond sy’n dymuno dal ati i ddysgu, i gadw’r meddwl yn effro, cyfarfod yn gymdeithasol a dysgu ffurfiau newydd ar dechnoleg. Maent hefyd yn darparu dosbarthiadau ESOL i bobl nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt. Oherwydd bod 3 dosbarth yr wythnos ar gael iddynt, maent wedi gallu ymdoddi’n well i’r gymuned drwy fod yn gallu siarad Saesneg, ysgrifennu a defnyddio gramadeg yn well a dod i gyfarfod pobl leol eraill.
Yn seiliedig ar gyflenwi’r prosiect hwn, mae’r Bartneriaeth hefyd wedi dysgu am yr hyn y byddent yn ei wneud yn wahanol yn y dyfodol. Yn gyntaf, byddent yn trefnu mwy o gyrsiau ar lefel ragarweiniol i annog y rhai hynny gydag anghenion o ran sgiliau sylfaenol i fynychu dosbarth ‘haws’. Ni fyddai cyfyngiadau ar nifer y rhai a fyddai’n mynychu pob dosbarth. Byddai ganddynt amrywiaeth ehangach o gyrsiau, ac efallai na fyddent mor academaidd, i annog rhai sy’n dychwelyd am y tro cyntaf i fynychu a dechrau ar eu taith ddysgu. Byddent hefyd yn cynhyrchu mwy o gyswllt wyneb yn wyneb gyda’r cyhoedd i godi ymwybyddiaeth a marchnata’r ddarpariaeth o ran addysg oedolion sydd ar gael iddynt yn eu cymuned leol.
I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen hon, cysylltwch â:
Anthony Brito, Cydgysylltydd Partneriaethau Cymunedol
Ymddiriedolaeth Datblygu Cyf. Blaenymaes, Portmead a Phenplas
| Download the Blaenymaes, Portmead a Phenplas Communities First Partnership Case Study Welsh | doc |
Comments



Register and create your free account to post comments