Gwella iechyd yn Nwyrain Castell Nedd!
Mae Cymunedau yn Gyntaf Dwyrain Castell Nedd wedi hyrwyddo ystod o weithgareddau byw yn iach i drigolion lleol drwy eu Sioeau Teithiol blynyddol yn ymwneud ag Iechyd. Mae hyn wedi arwain at well ymwybyddiaeth ynglŷn ag iechyd a’r gymuned, a ffurfio nifer o grwpiau llwyddiannus yn gysylltiedig ag iechyd, gan gynnwys grŵp cerdded, grŵp cefnogi ysmygwyr a chlwb cadw’n heini.
Cyflenwi Fframwaith Gweledigaeth Cymunedau yn Gyntaf: Mae’r prosiect yn cefnogi Thema Iechyd a Lles y Fframwaith Gweledigaeth yn bennaf.
- Cyngor am faterion iechyd meddwl drwy MIND, Grŵp Cynghrair Defnyddwyr Gwasanaeth Iechyd Meddwl CVS a Chyngor Gorllewin Morgannwg ar Gamddefnyddio Alcohol a Chyffuriau.
- Cyngor am incwm a budd-daliadau drwy’r Cyngor Hawliau Lles a Safonau Masnach
- Gwybodaeth am ddiogelwch cymunedol drwy’r PCSOs a fynychodd a chynrychiolwyr Gwylio Cymdogaeth
- Cyngor i bobl hŷn gan Age Concern
Ers 2007, mae Cymunedau yn Gyntaf Dwyrain Castell Nedd wedi cynnal dwy Sioe Deithiol arall, gyda phob un yn cynnwys arddangosfeydd o weithgareddau sy’n hybu iechyd sy’n newydd i’r ardal. Mae’r Sioeau Teithiol yn ymwneud ag Iechyd wedi newid ymddygiad pobl sydd wedi arwain at welliannau yn eu hiechyd a’u lles. Ymholodd 46 o bobl dros 50 oed ynglŷn â Thechnoleg Gwybodaeth. Rhoddwyd gwybodaeth briodol iddynt i gyd ynglŷn â’r gwasanaeth a ddarparwyd yn eu hardal ac fe’u cyfarwyddwyd at Brosiect Canolfan Technoleg Melin. Gwnaeth 58 o bobl, hen ac ifanc, ymholiadau am weithgareddau hamdden, cadw’n iach a diet iach. Lle nad oedd Celtic Leisure yn gallu ateb y galw, cyfeiriwyd pobl at ddarparwyr gwasanaeth eraill oedd yn fwy priodol. Cafodd 82 o bobl eu pwysau gwaed wedi ei archwilio gyda nifer sylweddol yn cael eu hanfon at y meddyg teulu i ofyn am gyngor pellach. Rydym yn gwybod bod nifer o bobl wedi ymweld â stondin MIND, ond roedd y canlyniad ynglŷn â’r atgyfeiriadau yn gyfrinachol ac felly ni ellid ei ddatgelu i drydydd parti.Ymholodd 38 o bobl am fudd-daliadau gyda phob un ohonynt yn cael cyngor priodol ar y diwrnod ac apwyntiadau lle roedd hynny’n bosibl iddynt dderbyn cyngor preifat a phersonol ar sail un-i-un yng Nghanolfan Cynghori Melin.
Canlyniad tymor hir y digwyddiadau hyn fu creu nifer o sefydliadau newydd a pharhad y gweithgareddau hybu iechyd. Mae’r grwpiau bellach yn sicrhau bod gan bobl ffyrdd o fyw mwy iach a fydd yn effeithio ar ganlyniad tymor hir bod â chymuned iach. Mae gweithgareddau sy’n newydd i’r ardal o ganlyniad i’r sioe deithiol yn cynnwys:
- ‘Melin Walkers’, grŵp cerdded sydd wedi cwblhau dros 200 o deithiau cerdded ers iddo ddechrau. Daeth nifer o bobl at ei gilydd ar ôl y Sioe Deithiol yn ymwneud ag Iechyd. Gyda chefnogaeth Cymunedau yn Gyntaf Dwyrain Castell Nedd, mae wedi trefnu teithiau cerdded yn y gymuned leol a thu hwnt. Maent yn cerdded ddwywaith yr wythnos ac maent bob amser yn chwilio am aelodau newydd drwy hysbysebu mewn cylchgronau cymunedol fel “Melin Matters”, eu gwefan eu hun (melinwalkers.btik.com), ac anogaeth yr aelodau.
- Grŵp Atal Ysmygu Dwyrain Castell Nedd, sydd wedi helpu dros 30 o bobl i roi’r gorau i ysmygu. I ddechrau, roedd cyn-nyrs resbiradol a oedd yn byw yn yr ardal a chynrychiolydd o Gymunedau yn Gyntaf Dwyrain Castell Nedd yn gweithio gyda’i gilydd i roi cyngor ynglŷn ag atal ysmygu i bobl yn y digwyddiad. O ganlyniad i’r Sioeau Teithiol yn ymwneud ag Iechyd, cyflwynwyd dosbarth cynghori awr o hyd ynglŷn ag atal ysmygu yng Nghanolfan Cynghori Melin. Gan weithio gyda chyfranogwyr sydd wedi rhoi’r gorau i ysmygu ers hynny, mae hyn wedi datblygu i fod yn grŵp hunangymorth gyda chyn-ysmygwyr yn rhoi cefnogaeth i eraill sy’n ceisio cael cymorth i roi’r gorau iddi. Mae 30 o bobl hyd yma wedi rhoi’r gorau i ysmygu oherwydd ymyrraeth Grŵp Atal Ysmygu Dwyrain Castell Nedd. Mae’r Grŵp hefyd yn gweithio gydag ysgolion lleol i gyflenwi cyngor a chymorth i bobl ifanc i’w helpu i osgoi neu i atal ysmygu.
- Clwb Cadw’n Heini er mwyn Hwyl Melin, grŵp sy’n cynnal dosbarthiadau Tai Chi ac ymarferiadau ar gyfer rhai dros 50 oed drwy Ymestyn. Yn wreiddiol, gwahoddwyd hyfforddwyr i Sioe Deithiol yn ymwneud ag Iechyd Dwyrain Castell Nedd i gysylltu â phobl leol a’u cynnwys mewn sesiynau blasu ar gyfer eu gweithgaredd arbennig. Ar ôl cysylltu â nifer o gyfranogwyr, dosbarthwyd holiaduron i ofyn am eu hadborth.Nododd dadansoddiad o’r holiaduron fod bylchau yn y ddarpariaeth o ran gweithgareddau hybu iechyd, yn arbennig gweithgareddau corfforol.Byddai darparu Tai Chi ac Ymestyn yn helpu i lenwi’r bylchau mewn darpariaeth.O ganlyniad, trefnwyd sesiynau blasu pellach mewn canolfannau lleol i fesur y galw.Cafwyd cyllid pellach i barhau a threfnwyd sesiynau pellach. Mae’r ddau grŵp bellach wedi ymuno i ffurfio grŵp newydd gyda chyfansoddiad, ‘Clwb Cadw’n Heini er mwyn Hwyl Melin’. Mae’r grŵp yn parhau i gyflenwi dosbarthiadau Tai Chi ac Ymestyn ac yn cynnal eu hunain drwy ofyn am dâl bychan yn gysylltiedig â phob gweithgaredd. Maent yn chwilio am fwy o aelodau ac yn ceisio ennill cymorth grant.
David Edwards – Cydgysylltydd, Cymunedau yn Gyntaf Dwyrain Castell Nedd
Gwefan: www.neatheast.ik.com
| Download the Neath East Communities First Partnership Case Study Welsh |

|
Comments




Register and create your free account to post comments