Cymdeithas Hunan Gymorth Maerdy (MASH)
Mae Cymunedau yn Gyntaf wedi cynyddu ymwybyddiaeth am strategaethau iechyd meddwl a hunan gymorth a defnyddiwyd eu model ar draws ardaloedd yn Rhondda Cynon Taf, yn arbennig drwy sefydlu grwpiau hunan-gymorth. Mae hyn wedi codi ymwybyddiaeth am Fodel Maerdy drwy bob rhan o Rhondda Cynon Taf lle datblygwyd grwpiau hunan-gymorth yn dilyn Model Maerdy mewn Partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf yng Nghymoedd Cynon a Thaf.
Cyflawni Fframwaith Gweledigaeth Cymunedau yn Gyntaf: Mae’r prosiect yn cefnogi Thema Iechyd a Lles y Fframwaith Gweledigaeth yn bennaf.
Mae Cymunedau yn Gyntaf Maerdy, mewn partneriaeth gyda Journeys (sefydliad o Gaerdydd sy’n cefnogi pobl i ddarganfod eu ffordd eu hunain o wella o iselder), Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf a’r Rhwydwaith Byw yn Iach gyda’i gilydd wedi datblygu a chefnogi Cymdeithas Hunan Gymorth Maerdy a chyflenwi’r cynllun peilot ynglŷn â Chwalu Iselder. Seilir y Model Maerdy hwn o amgylch hunan gymorth a arweinir gan gyfoedion, sy’n cyfarwyddo pobl at wasanaethau cymorth a hyfforddiant perthnasol.
Sefydlwyd Cymdeithas Hunan Gymorth Maerdy (MASH) ym mis Tachwedd 2007. Mae MASH yn cyfarfod bob wythnos, gydag 17 o bobl leol yn mynychu fel arfer.Mae’r grŵp yn cynnig cymorth mewn lleoliad cyfrinachol, ac yn canolbwyntio ar adferiad a hunan gymorth.Mae’r grŵp yn gwbl gynhwysol heb roi unrhyw ystyriaeth i hil, crefydd, rhyw, rhywioldeb, dosbarth na diwylliant. Yr unig amod yw na all yr aelodau fod o dan ddylanwad alcohol na chyffuriau anghyfreithlon yn ystod y sesiwn grŵp. Fel grŵp maent yn ymgymryd â’r gweithgareddau cymorth canlynol:
- Dysgu am effaith dewisiadau yn ymwneud â ffordd o fyw ar eu cyflwr
- Rheoli’r Cyflwr
- Cyrchu at gyfleoedd dysgu anffurfiol / ffurfiol
- Cynyddu eu hunan hyder / hunan barch
- Ymgysylltu â Phartneriaeth Cymunedau yn Gyntaf ac wrth wneud hynny ennill mynediad at gyfleoedd i wirfoddoli ac ystod o wasanaethau cymorth a gyflenwir yn lleol
- Dylanwadu ar y modd y cyflenwir gwasanaethau iechyd meddwl yn yr ardal (mynychodd yr aelodau craidd ddigwyddiadau ymgynghori ynglŷn â “Model Maerdy” a’r hyfforddiant y maent wedi ei fynychu drwy’r grŵp)
- Bod yn fwy parod at waith ac mewn rhai enghreifftiau wedi dychwelyd at waith amser llawn
- Cwtogi ar ynysu a galluogi cyfranogwyr i chwarae rôl lawn ym mywyd eu cymuned
- Codi ymwybyddiaeth am anghyfartaleddau o ran iechyd meddwl o fewn y gymuned a chwtogi ar stigma
Mae unigolion yn mynychu MASH o bob rhan o Rondda Cynon Taf ac maent wedi teithio o ardaloedd mor bell i ffwrdd â Chaerdydd. Mae’r rhai sy’n cymryd rhan i gyd wedi cyfeirio eu hunain ac yn wahanol i’w gilydd oherwydd y ffaith fod rhai yn ofalwyr, rhai eraill yn bobl nad ydynt wedi cael unrhyw ddiagnosis, ac mae rhai yn adnabyddus i’r gwasanaethau iechyd meddwl. Ryddhawyd canran fechan o’r ysbyty ac maent yn defnyddio MASH am gymorth cymunedol.
Mae cyfranogwyr yn gallu manteisio ar wasanaethau cymorth drwy Bartneriaeth Cymunedau yn Gyntaf. Fel unigolion, efallai eu bod yn teimlo eu bod wedi eu hynysu oddi wrth y gymuned ac nad ydynt yn gwybod am nac yn gallu defnyddio gwasanaethau. Mae hunan ddatblygiad yn eu galluogi i ddefnyddio gwasanaethau a gwella ansawdd eu bywydau. Mae mwy o hunan-hyder a hunan-barch yn eu hannog i wirfoddoli, ailgysylltu â hobïau / diddordebau / grwpiau cymunedol, defnyddio cymorth gan asiantaethau os oes ganddynt anghenion arbennig a byw yn iachach ac mewn modd mwy cytbwys. Os oes angen i gyfranogwyr gael ymyrraeth gan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl, mae Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf yn gallu eu cyfeirio at ddarparwyr gwasanaethau perthnasol.
Fel rhan o’r rhaglen beilot fwy, mae Cymunedau yn Gyntaf Maerdy wedi ymgeisio yn llwyddiannus am Gyllid Cydraddoldeb ac Amrywiaeth i gyflenwi cynllun peilot yn ymwneud â chwnsela yn seiliedig ar y gymuned drwy Relate Cymru. Nododd y gwerthusiad y pynciau pwysig sydd wedi effeithio ar y gymuned gan gynnwys trais yn y cartref, camddefnyddio sylweddau a phroblemau gyda pherthnasoedd / cyfathrebu. Mae dros 40 o bobl wedi defnyddio’r gwasanaethau cymorth yn ystod y rhan hon o Fodel Maerdy.
Mae’r prosiect yn bodloni nifer o Themâu allweddol yn Fframwaith Gweledigaeth Cymunedau yn Gyntaf, yn arbennig Iechyd a Lles ac Addysg, Hyfforddiant a Sgiliau. Drwy gefnogi pobl fregus gyda’u problemau iechyd meddwl drwy ymgysylltu a chymorth wedi ei deilwrio yn arbennig, bydd yn gwella ansawdd eu bywydau, eu cyfranogiad cymunedol a gobeithio yn arwain at gyfleoedd ar gyfer gwaith a hyfforddiant. Mae Cynllun Gweithredu Cymunedau yn Gyntaf Maerdy 2009-2011 yn targedu canlyniadau yn ymwneud ag iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau yn ogystal â rhoi cefnogaeth i bobl sy’n dioddef o orddryswch. Mae’r prosiect hefyd yn bodloni Strategaeth Gofal Cymdeithasol a Lles Rhondda Cynon Taf 2008-2011 sy’n tynnu sylw at effeithlonrwydd cydweithio cymunedol, ac o ran iechyd meddwl a lles, mae wedi nodi tri o gyrchnodau y rhoddir blaenoriaeth iddynt, yr ymdriniwyd â dau ohonynt gan y prosiect hwn.
· “Gwella’r gwaith o hybu iechyd ac ymdrin â stigma – cwtogi ar y stigma sy’n gysylltiedig ag afiechyd meddwl a helpu pobl i ddod o hyd i ffyrdd o ddatblygu a chynnal eu lles emosiynol.”
· “Gwella gwasanaethau i bobl hŷn.”
I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen hon, cysylltwch â:
Kristen Jones, Gweithiwr Datblygu Cymunedol, Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Maerdy
Ebost: Kristen.Jones@rhondda-cynon-taff.gov.uk
| Download the Maerdy Communities First Partnership Case Study Welsh | doc |

|
Comments




Register and create your free account to post comments