Chwilio
Croeso i to Canolfan Wybodaeth Cymunedau`n Gyntaf
10/09/2010

Username

Password

Create new account

Hyrwyddo cyfranogiad cymunedol ymhlith yr henoed drwy Glwb Cinio Gibbonsdown a Court.

Mae Cymunedau yn Gyntaf Gibbonsdown a Court wedi cefnogi dros 20 o henoed lleol drwy ddarparu Clybiau Cinio misol, sy’n rhoi cyfle gwych i’r trigolion mewn oed gymdeithasu. Mae’r prosiect wedi cwtogi ar ynysu ac unigrwydd i’r aelodau. Mae rhai o’r henoed wedi ymuno â gweithgareddau eraill Cymunedau yn Gyntaf ac yn ymgymryd â mwy o weithgareddau gwirfoddoli yn eu cymunedau.

 

Cyflenwi Fframwaith Gweledigaeth Cymunedau yn Gyntaf: Mae’r prosiect yn cefnogi Thema Iechyd a Lles y Fframwaith Gweledigaeth yn bennaf.

 
Mae Cymunedau yn Gyntaf Gibbonsdown a Court wedi bod yn cynnal eu Clwb Cinio bob mis o swyddfa gymunedol Cymunedau yn Gyntaf ers Medi 2008. Mae wedi bod yn hynod o boblogaidd a bob mis mae trigolion lleol 50 oed a throsodd yn mwynhau pryd iach dau gwrs rhad am gyn lleied â £2.40. Mae’n cael ei gynnal gan staff a gwirfoddolwyr lleol sy’n caniatáu i aelodau’r Clwb Cinio fwynhau nifer o gemau a chwisiau amrywiol hefyd. Mae’n gyfle gwych hefyd i drigolion hŷn gymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd.
 

Y prif syniad y tu ôl i sefydlu’r Clwb Cinio oedd cael o leiaf 20 o drigolion o ddwy ardal Cymunedau yn Gyntaf (Gibbonsdown a Court) i fynychu’r clwb bob mis. Un o amcanion eraill y clwb oedd ymladd yn erbyn ynysu ac unigrwydd ymysg llawer o’r aelodau hŷn sy’n tueddu i fyw ar eu pen eu hunain.

 

Ers sefydlu’r Clwb Cinio, mae aelodau’r clwb hefyd wedi ymuno â gweithgareddau a grwpiau eraill Cymunedau yn Gyntaf gan gynnwys y “Cynllun Cymdogion da. Maent hefyd yn mynychu dosbarthiadau Ymestyn ddwywaith y mis lle gall y trigolion fwynhau ymarfer ysgafn i gerddoriaeth mewn amgylchedd croesawgar a chyfeillgar. Trefnwyd hyn gan Weithiwr Datblygu Cymunedau yn Gyntaf, ac mae’r aelodau hefyd wedi bod ar dripiau gan gynnwys i’r Ganolfan Celfyddydau yn Sain Dunwyd ym Mro Morgannwg.

 

Mae Cymunedau yn Gyntaf Gibbonsdown a Court wedi gweithio gydag Adran Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Cyngor Bro Morgannwg, Tîm Iechyd Cyhoeddus lleol Bro Morgannwg, gwirfoddolwyr lleol ac ysgol gynradd mewn pentref cyfagos (Ysgol Gynradd St Andrews, Dinas Powys). Cynhaliwyd cyfarfodydd dechreuol ynglŷn â sefydlu’r Clwb Cinio a chyflawnwyd nifer o asesiadau iechyd a diogelwch yn swyddfa Cymunedau yn Gyntaf i weld a oedd yr adeilad yn addas ar gyfer clwb o’r fath. Er y daethpwyd i’r casgliad fod yr adeilad yn addas ar gyfer y Clwb Cinio ac i weini’r bwyd, nid oedd yn addas i goginio bwyd ar y safle.Felly casglwyd y bwyd o’r ysgol mewn cynwysyddion wedi eu selio sy’n cadw’r gwres i mewn ac fe’i gweiniwyd i’r trigolion yn swyddfa Cymunedau yn Gyntaf. 

 

Mae’r Clwb Cinio wedi bod o fudd mawr i’r gymuned leol. Cefnogwyd tua 22 o henoed sy’n byw yn yr ardal bob mis, gyda’r mwyafrif ohonynt yn 60 oed neu drosodd. Mae llawer wedi gwneud ffrindiau da yn y clwb ac yn mwynhau cymdeithasu y tu allan i’r Clwb Cinio. Un o fanteision eraill y prosiect yw y bydd y 4 gwirfoddolwr lleol sy’n helpu i gynnal y clwb yn cymryd rhan mewn hyfforddiant i wirfoddolwyr gyda chefnogaeth gan Cymunedau yn Gyntaf Gibbonsdown a Court.

 

Roedd y bwyd a dderbyniwyd gan y Clwb Cinio yn faethlon, yn iach ac yn gytbwys, ac wedi ei baratoi gan staff gyda’r cymwysterau priodol yn yr ysgol gynradd. Cynhyrchwyd y pryd gan ddefnyddio cynnyrch ffres, gan sicrhau ei fod yn bodloni’r holl reoliadau hylendid bwyd gan gynnwys HACCP (Dadansoddiad Peryglon a Phwyntiau Critigol) yn ystod coginio’r pryd. Roedd yn cael ei gyflenwi pan oedd o’r ansawdd gorau ac ar y tymheredd sy’n ofynnol yn ôl deddfwriaeth.

 

Mae’r prosiect yn bodloni Thema Iechyd a Lles Fframwaith Gweledigaeth Cymunedau yn Gyntaf drwy nodi problemau iechyd lleol a’u heffeithiau. Mae hefyd yn ymgysylltu â’r henoed sydd mewn perygl o fod ag iechyd gwael drwy hyrwyddo byw yn iach a gweithgaredd corfforol. Drwy ymgysylltu â darparwyr gwasanaeth iechyd lleol, mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiant mawr er budd henoed ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf Gibbonsdown a Court.

 
I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen hon, cysylltwch â:

Sharon Topazio

Ebost: SATopazio@valeofglamorgan.gov.uk

Ffôn: 01446 732406  

Gwefan: www.gibbonsdownandcourt.org.uk     

Download the Gibbonsdown Communities First Partnership Case Study Welsh

Gibbonsdown1

Comments

ArrowMethu dod o hyd i'r wybodaeth yr ydych ei angen? Request information

 


Welsh Assembly Government