O afael mewn rhaw i greu dysgu a menter
Mae mwy na 250 o drigolion lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi dod at ei gilydd i wella’r amgylchedd maent yn byw ynddo o ganlyniad i gyfranogiad Cymunedau yn Gyntaf mewn cymuned sy’n ynysig yn ddaearyddol ac wedi ei hallgau yn gymdeithasol.
Cyd-fynd â Fframwaith Cymunedau yn Gyntaf: Mae’r prosiect yn cefnogi thema Swyddi, Busnes a Chreu Incwm y Fframwaith Gweledigaeth yn bennaf.
Cafodd Partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf Corneli a Wildmill y weledigaeth o greu llwybrau a gefnogir at waith a hyfforddiant drwy ymgysylltu unigolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn y gwaith o gyflenwi prosiectau amgylcheddol lleol ar raddfa fechan. Drwy’r mecanwaith hwn, byddai ystod gynhwysfawr o wasanaethau cymorth yn cael eu cyflenwi a fyddai’n ymdrin â’r rhwystrau i waith ar gyfer rhai o’r trigolion lleol.
Daeth Partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf Corneli a Wildmill yn ymwybodol o’r Cynllun Cyflogaeth Deuluol, rhaglen gydgyfeiriant a gyllidwyd o’r newydd gan WEFO (Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru), a nododd y potensial o gael arian cyfatebol drwy Gronfa Deilliannau Cymunedau yn Gyntaf. Cysylltwyd â BTCV (Gwarchodwyr Cefn Gwlad) a oedd yn awyddus i fod yn rhan o’r prosiect a datblygu Pen-y-bont ar Ogwr yn y cynllun. Ffurfiwyd partneriaeth rhwng Cymunedau yn Gyntaf, BTCV Cymru, Tai Valleys 2 Coast (V2C) ac Uned Datblygu Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i fynd â’r prosiect yn ei flaen.
Yn ogystal â darparu llwybr at waith yn y prif lif, mae’r prosiect yn darparu ffocws ar gyfer datblygu mentrau cymdeithasol yn seiliedig ar stadau gan ymgymryd â rhaglenni cynnal yr amgylchedd o dan gontract oddi wrth V2C sy’n rheoli mwyafrif y tai yng Nghorneli a Wildmill. Mae enghreifftiau o weithgareddau amgylcheddol yn cynnwys murluniau mewn tanlwybrau a grëwyd gan drigolion lleol ifanc yn ardal Wildmill, gwelyau blodau a chreu parc cymunedol o chwarel nad yw bellach yn cael ei defnyddio.
Prif ganlyniadau’r prosiect a ddechreuodd yn Ebrill 2009 yw cynyddu nifer y bobl leol mewn gwaith, darparu cyfleoedd i deuluoedd ac unigolion gymryd rhan mewn ystod eang o gyfleoedd amgylcheddol, cymunedol ar raddfa fechan, a darparu llwybr at ddatblygu hunangyflogaeth, cwmnïau cydweithredol a busnesau cymunedol a sefydlu mentrau cymdeithasol. Mae’r prosiect yn cynnwys cyflogi 2 ‘gynllun hyfforddeion’ a anelir at roi cyfle i bobl ifanc ddysgu sgiliau newydd mewn datblygu cymunedol drwy wella’r amgylchedd.
Er bod y prosiect wedi ei gyflwyno o dan thema Fframwaith Gweledigaeth Cymunedau yn Gyntaf sef Swyddi, Busnes a Chreu Incwm, mae’n cyfrannu’n sylweddol at faes Amgylcheddol a Hyfforddiant, a Sgiliau Hyfforddi’r Fframwaith Gweledigaeth drwy ddefnyddio prosiectau i wella’r amgylchedd fel catalydd i hyrwyddo dysgu ac addysg. Sylweddolwyd yr angen am y prosiect a’i bwysigrwydd wrth iddo ddod yn un o ddim ond 6 o Brosiectau Arddangos llwyddiannus i’w gyllido ar draws Cymru o’r Cynllun Cyflogaeth Deuluol a Mentrau Cymdeithasol. Mae llwyddiant y prosiect wedi digwydd yn rhannol o ganlyniad i’r ymgysylltu cymunedol hynod gadarnhaol a sicrhawyd gyda phawb fu’n cymryd rhan, yn arbennig gyda thrigolion lleol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae wedi gweithio gydag asiantaethau allweddol gyda’r nod o sicrhau cynaliadwyedd tymor hir drwy gyflenwi contractau i wella’r amgylchedd er budd pobl leol. Mae’r prosiect yn defnyddio gweithgareddau amgylcheddol arferol fel y prif declyn i ymgysylltu â phobl. Anogir aelodau lleol o’r gymuned i gymryd rhan mewn gwelliannau amgylcheddol ar raddfa fechan. Mae’r prosiectau hyn yn rhai gweladwy iawn ac yn digwydd yn uniongyrchol ar y stadau. Deffrir diddordeb pobl leol ar unwaith a gallant weld yn rhwydd y gwelliannau i’w cymuned sy’n eu hannog i gymryd rhan.
Mae’r prosiect yn cyfrannu at ddatblygu strategaethau cymunedol ac adfywio lleol allweddol. Mae’r prosiect yn gweithio gyda Strategaeth Gymunedol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (2005-2016) gan wella ansawdd bywyd i bawb a gwarchod a gwella’r amgylchedd lleol. Mae hefyd yn bodloni strategaeth ‘Cymwys ar gyfer y Dyfodol’, sef Strategaeth Adfywio Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr drwy alluogi cyfoeth a chreu menter yn yr ardal a gwella lefelau sgiliau yn y gweithlu lleol actif.
Mae canlyniadau’r prosiect hyd yma yn cynnwys 253 o gyfranogwyr sydd wedi ymgysylltu â’r prosiect, gyda 20 wedi eu cyfeirio at asiantaethau cymorth a hyfforddiant eraill, a 4 o drigolion lleol yn mynd ymlaen am ddysgu pellach. Mae 28 wedi ennill canlyniadau cadarnhaol eraill gan gynnwys lleoliadau i wirfoddolwyr a chyfeiriwyd 19 at Raglen Pontydd i Waith – sydd wedi ei hanelu at bobl anweithredol yn economaidd a rhai di-waith yn Ne Ddwyrain Cymru a gyllidir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd.
Yn ogystal â’r ‘deilliannau caled’ uchod, bu nifer o ganlyniadau eraill, meddalach. Un o agweddau mwyaf calonogol y prosiect fu’r synnwyr o berchnogaeth a ddatblygwyd ymysg trigolion lleol. Ar y dechrau roedd rhywfaint o wrthwynebiad gan y gymuned i gymryd rhan oherwydd ei bod yn teimlo ‘nad oes unrhyw bwrpas yn y peth’, ‘y cyfan fydd yn digwydd yw y bydd yn cael ei ddifetha’ a ‘bydd y plant yn ei ddifetha’. Mae wedi creu gwell lle i fyw ynddo, gan ddenu a gweithio gyda phobl leol nad ydynt wedi cymryd rhan o’r blaen mewn rhaglenni cymorth eraill. Oherwydd bod aelodau’r gymuned wedi cymryd rhan yn llawn ac yn uniongyrchol yn y gwaith ac wedi gwerthfawrogi’r gwaith caled a wnaed i newid eu hardal leol, un o lwyddiannau pellach y prosiect fu mai ychydig iawn o fandaliaeth neu o ladrad a fu o ganlyniad i weithgareddau’r prosiect.
Yn ychwanegol at y datblygiad amgylcheddol, mae wedi annog y gymuned leol i gymryd rhan mewn gweithgareddau eraill fel y cwmni bwyd cydweithredol a ffurfiwyd yn ddiweddar a threfnu digwyddiadau cymunedol. Mae’r cyfranogwyr hyd yn oed wedi dweud bod eu hiechyd wedi gwella gan gynnwys 6 o wirfoddolwyr ‘Bron y Wawr’ sy’n dweud eu bod wedi colli cyfanswm o dros 4 stôn mewn pwysau rhyngddynt. Yr unig anfantais o’r prosiect yw oherwydd y dirwasgiad cyfredol, y gallai hyn gael effaith ar gyflawni canlyniadau pellach. Gyda diffyg cyfleoedd gwaith yn lleol, efallai bod rhwystr i sicrhau mynediad i waith.
Mae’r bartneriaeth rhwng Cymunedau yn Gyntaf, V2C, BTCV Cymru a’r Uned Datblygu Ewropeaidd wedi gweithio’n dda. Mae’r tîm wedi gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod gan gam nesaf y prosiect – sef creu menter gymdeithasol fel deorydd ar gyfer rheoli stadau, - y cymorth priodol i wneud iddo lwyddo. Mae llwyddiant y prosiect hwn wedi annog y tîm i ystyried ymgeisio am brosiect yn y dyfodol, gan gynnwys yn ddiweddar i Gronfa’r Loteri Fawr. Mae’r prosiect wedi dechrau – ac mae’r posibiliadau yn ddi-ben-draw!
I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen hon, cysylltwch â:
Cydgysylltydd Ardal Wildmill Pen-y-bont ar Ogwr
Ebost: Chris.Palmer@Bridgend.Gov.UK
| Download the Cornelly and Wildmill Communities First Partnership Case Study Welsh | doc |
|
|
Comments



Register and create your free account to post comments