Chwilio
Croeso i to Canolfan Wybodaeth Cymunedau`n Gyntaf
07/09/2010

Username

Password

Create new account

Dileur profiad hunllefus i bobl leol Pantyffynnon ar noson Calan Gaeaf

Cefnogodd Cymunedau yn Gyntaf Pantyffynnon grwpiau ieuenctid a thrigolion lleol yn yr ardal i drefnu digwyddiad Calan Gaeaf gyda’r nod o gwtogi ar ymddygiad gwrthgymdeithasol a’r effaith ar y trigolion lleol yn ystod y noson. Mae’r digwyddiad wedi bod yn llwyddiant, gyda llai o ddigwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol ar noson Calan Gaeaf, a’r ieuenctid yn dysgu sgiliau newydd o drefnu digwyddiad cymunedol.

 

Cyd-fynd â Fframwaith Gweledigaeth Cymunedau yn Gyntaf: Mae’r prosiect yn cefnogi Thema Diogelwch Cymunedol y Fframwaith Gweledigaeth yn bennaf.

 
 

Roedd y Digwyddiad Calan Gaeaf Amgen i Ieuenctid yn ddigwyddiad i gymuned gyfan Pantyffynnon, a gynhaliwyd ac a drefnwyd gan y grŵp ieuenctid lleol (Panty Teens Crew), gyda chymorth Cymunedau yn Gyntaf Pantyffynnon.Y nod oedd darparu digwyddiad amgen i’r gymuned i gyd ar noson Calan Gaeaf i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol ieuenctid yn yr ardal. Cynhaliwyd y digwyddiad yn y gymuned am y 4 blynedd diwethaf ac mae’n parhau i fod yn llwyddiant flwyddyn ar ôl blwyddyn. Fe’i cynhelir ar gaeau chwarae Ysgol Gynradd Sirol Parcyrhun ac mae ganddo thema wahanol bob blwyddyn o ganu gwlad i arddull retro yr 80au.  

 

Fel gydag unrhyw ddigwyddiad, mae’n cymryd llawer o waith cynllunio a threfnu. Gan gofio hynny, cynhaliodd y grŵp gyfarfod gyda’r gymuned, yn arbennig y trigolion ifanc lleol, i drafod syniadau, a beth yr hoffent ei gynnal yn y digwyddiad.Roedd trafodaethau gyda’r ieuenctid yn cynnwys ystyried yr ystod o weithgareddau i’w cynnig, penderfynu pa grwpiau cymunedol y gallent eu gwahodd i fod yn stondinwyr, codi arian ar gyfer eu darpar grwpiau, a sut maent yn rhagweld y bydd y digwyddiad yn cael ei gynllunio.    

 

Wrth gynorthwyo’r grŵp, trefnodd Cymunedau yn Gyntaf Pantyffynnon y gwahoddiadau, cyhoeddwyd datganiad i’r wasg yn gwahodd pobl i’r digwyddiad a chynhyrchwyd taflenni a phosteri. Helpodd gwirfoddolwyr lleol ifanc Panty Teens, rhwng 10 ac 14 oed, i wneud y paratoadau drwy greu baner celf i’w harddangos, prynwyd a lapiwyd teganau i’r plant ar gyfer twba lwcus, helpwyd i ddosbarthu posteri o amgylch y gymuned; prynwyd diodydd a chreision i’r plant; prynwyd te, coffi a siocled poeth i oedolion, a gwerthwyd y cyfan yn y digwyddiad i godi arian.

 

Ar y diwrnod, roedd y gwirfoddolwyr lleol ifanc yn frwdfrydig iawn ac aethant ati i osod pethau yn eu lle, oedd yn cynnwys dod â llawer o fyrddau i mewn a’u gosod yn y cae. Buont yn helpu hefyd i sefydlu’r gazebos ar gyfer y stondinau a pharatowyd y byrddau ar gyfer gwerthu lluniaeth ac i ddal y gwobrau. Cynhaliodd y gwirfoddolwyr ifanc ddwy stondin ac roeddent yn gyfrifol am werthu, edrych ar ôl y stoc, rheoli’r arian ar gyfer newid a’r derbyniadau am y cyfan yr oeddent yn ei werthu. Roedd hyn yn rhoi cyfle iddynt gael profiad o ymdrin â’r cyhoedd, datblygu sgiliau gofal y cwsmer, a chymryd cyfrifoldeb am stoc a thrin arian. 

 

Cafodd y digwyddiad gefnogaeth dda gyda thua 100 o drigolion lleol o bob oed a chefndir yn cymryd rhan. Cafodd pob plentyn gyfle cyfartal i gymryd rhan, a oedd yn hyrwyddo chwarae ac yn rhoi cyfle iddynt roi cynnig ar weithgareddau corfforol heriol. Cymerodd 11 o ieuenctid lleol ran yn y gwaith grŵp a’r paratoadau ar gyfer y digwyddiad, gyda 6 ohonynt yn gwirfoddoli yn ystod y digwyddiad gan ennill sgiliau hanfodol fel y nodwyd uchod. Elwodd 16 o wirfoddolwyr eraill o amrywiaeth o grwpiau o’r digwyddiad ac roedd hyn yn rhoi hwb ychwanegol i’r gymuned gymryd rhan. Darparodd 3 o grwpiau ieuenctid weithgareddau hwyliog i’r plant, oedd yn amrywio o ddal afalau yn eu cegau; popio balŵns, llithrennau gwynt a pheintio wynebau (ac yr oedd rhai ohonynt am ddim). Roedd grwpiau eraill a fu’n ymwneud â’r digwyddiad yn cynnwys: Grŵp Gweithredu Ward Pantyffynnon, Growing Together, Go and Play; Eglwys Elim, Eglwys Efengylaidd Rhydaman a Chymdeithas Gymunedol Parcyrhun.

 

Ar ôl cael adborth gan y gymuned ym Mhantyffynnon, cafodd y digwyddiad effaith gref yn y gymdogaeth. O ganlyniad i’r digwyddiad roedd llai o ddigwyddiadau ‘trick or treat’ a llai o ymddygiad gwrthgymdeithasol y noson honno. Wrth archwilio’r ystadegau ar gyfer troseddau, mae cyfraddau’r ymddygiad gwrthgymdeithasol ar Noson Calan Gaeaf wedi gostwng ychydig ers 2007 yn nhref Rhydaman i gyd, sy’n ymestyn y tu allan i ward Pantyffynnon - roedd cyfanswm nifer y digwyddiadau yn y dref yn 37 yn 2007, 32 yn 2008 a 32 eleni yn 2009. Nid oes modd cael ffigurau mwy penodol am gymuned Pantyffynnon, ond nid oedd aelodau’r gymuned wedi adrodd am unrhyw bryderon na digwyddiadau yn ardal Cymunedau yn Gyntaf Pantyffynnon yn ystod y noson honno, ac mewn gwirionedd roeddent wedi sylwi pa mor dawel yr oedd pethau. Roedd yr ymddygiad yn y gymuned o ganlyniad i’r digwyddiad yn ardderchog heb unrhyw aflonyddwch na thrafferth. Ar ôl siarad gyda’r trigolion, ni allent ond canmol y digwyddiad a sut yr oedd wedi cwtogi ar yr holl ymddygiad diangen.

 

Mae’r prosiect hwn yn cysylltu ag amrywiaeth o strategaethau gan gynnwys Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Gaerfyrddin, y Cynllun Diogelwch Cymunedol Cenedlaethol a gyflenwir drwy’r Swyddfa Gartref, Diogelwch Cymunedol Cymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chymunedau Diogelach Cymunedau yn Gyntaf sy’n datblygu sgiliau ar gyfer y dyfodol o dan themâu ieuenctid a thlodi plant. Mae’n cefnogi’n gryf Thema Diogelwch Cymunedol Fframwaith Gweledigaeth Cymunedau yn Gyntaf, gyda lefelau ardderchog o ymgysylltiad â holl aelodau cymuned Pantyffynnon i sicrhau ei lwyddiant. Enillwyd hyn drwy gynllunio a rheoli’r digwyddiad gyda’r ieuenctid lleol i sicrhau effaith fwy cadarnhaol a mwy o berchnogaeth i’r grŵp ifanc.

 

Bu nifer o ffactorau ar ôl y digwyddiad sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar y gymuned, gan gynnwys gwell cysylltiadau a gweithio mewn partneriaeth o fewn y grwpiau cymunedol. Er enghraifft, eleni, oedd y flwyddyn gyntaf yr ymunodd dwy eglwys leol i greu ‘stondin i’r eglwysi gyda’i gilydd’, gan gydweithio a datblygu gwell cysylltiadau gyda’r gymuned leol – i’r hen a’r ifanc. Y plant ac oedolion ifanc y gymuned oedd y rhai a elwodd fwyaf o’r digwyddiad, ac o ganlyniad i’r prosiect, cafodd pob plentyn gyfle i chwarae, defnyddio rhywfaint o’u hegni a chymryd rhan.  

 

Ar wahân i’r manteision cymdeithasol, cyfranogodd y gymuned yn y digwyddiad ac fe’i cefnogwyd, gyda’r gymuned iau wedi cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau fel gwaith tîm, cymryd cyfrifoldeb, arolygu system trin arian, codi arian, sgiliau gofal y cwsmer a sgiliau sylfaenol yn ymwneud â threfnu digwyddiadau.. O ganlyniad i’r digwyddiad hwn, rhagwelir y bydd yr ieuenctid yn cymryd rhan ymhellach mewn digwyddiadau eraill ac yn parhau i godi arian ar gyfer eu grŵp.

 

Y flwyddyn nesaf gobeithir y bydd y grŵp ieuenctid yn cymryd mwy o gyfrifoldeb, a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol iddynt archebu pethau eu hunain, cynhyrchu posteri a thaflenni eu hunain ac ysgrifennu at y grwpiau cefnogol, o dan gyfarwyddyd Cymunedau yn Gyntaf Pantyffynnon. Byddai hyn yn rhoi profiad amhrisiadwy iddynt o reoli digwyddiadau, cydgysylltu grwpiau, amseru’r digwyddiad ar gyfer y rhai sy’n cymryd rhan ac yn mynychu, gan eu cadw’n brysur yn ystod yr hyn a all fod yn amser anodd i rai aelodau o’r gymuned.

 
 
 

I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen hon, cysylltwch â:

 

Emma Martin-Jewell, Gweithiwr Datblygu

Cymunedau yn Gyntaf Pantyffynnon
Ebost: EJMartin-Jewell@carmarthenshire.gov.uk

Ffôn: 01269 590255   

 

Download the Pantyffynon Communities First Case Study doc

Pantyffynon

Comments

ArrowMethu dod o hyd i'r wybodaeth yr ydych ei angen? Request information

 


Welsh Assembly Government