Chwilio
Croeso i to Canolfan Wybodaeth Cymunedau`n Gyntaf
07/09/2010

Username

Password

Create new account

Partneriaeth Bettws Casnewydd
Helpu pobl ifanc Casnewydd yn llwyddiannus i ddod o hyd i'r llywbr cywir

26 o bobl ifanc nad oeddent mewn addysg, gwaith na hyfforddiant i ennill hyfforddiant a dysgu gwerthfawr, gan gwtogi’n ddramatig ar aildroseddu.

 

Cyflenwi Fframwaith Gweledigaeth Cymunedau yn Gyntaf: Mae’r prosiect yn cefnogi Thema Addysg, Hyfforddiant a Sgiliau'r Fframwaith Gweledigaeth yn bennaf.

 

Ers y llynedd, mae Cymunedau yn Gyntaf Betws Casnewydd wedi sefydlu rhaglen arloesol a llwyddiannus i ymgysylltu â phobl ifanc leol rhwng 16 ac 19 oed nad oeddent mewn addysg, gwaith na hyfforddiant (a elwir yn “NEET”).

 

Gweithiodd tîm staff Cymunedau yn Gyntaf Betws Casnewydd mewn partneriaeth gyda thîm Cymunedau yn Gyntaf Malpas i gyflenwi’r rhaglen Learn-a-bout sy’n darparu hyfforddiant galwedigaethol i blant ysgol sydd wedi eu gwahardd o’r ysgol. Roedd y sesiynau yn cynnwys hyfforddiant TG ac ASDAN sy’n rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu priodoleddau personol a chymdeithasol a’u lefelau cyflawniad lle mae tlodi yn cyfyngu ar gyfleoedd o’r fath i ddysgwyr. Roedd y rhaglen hefyd yn cynnwys sesiynau a ddarparwyd gan y Frigâd Dân leol, ar ffurf y prosiect “Rap” sy’n dangos DVDs o ddamweiniau a digwyddiadau, gan drafod goblygiadau sut y gall pobl ifanc gael eu temtio i gymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a sut i ymateb i’r sefyllfaoedd hynny.

 

O’r dechrau, roedd y 26 o bobl ifanc a gofrestrwyd ar y rhaglen i gyd yn rhai oedd yn gadael ysgol gyda’r mwyafrif yn cael eu cyfeirio gan wasanaethau ieuenctid lleol. Cyfeiriwyd chwe aelod o’r grŵp gan yr heddlu lleol. Roedd hyn yn ffordd o ail-ymgysylltu â rhai o’r troseddwyr ifanc lleol a’u dwyn yn ôl i addysg a hyfforddiant. Mae’r prosiect yn cyflenwi i ffocws cyfredol cryf gan bolisi llywodraeth leol a chenedlaethol, oherwydd bod pobl ifanc yn NEET yn agwedd gref ar gyfansoddiad y gymuned ac yn arbennig oherwydd bod diweithdra ymysg ieuenctid yn arbennig o uchel yn ystod y dirwasgiad cyfredol.

 

Mae’r prosiect yn cefnogi’n gryf holl themâu allweddol Fframwaith Gweledigaeth Cymunedau yn Gyntaf ond yn arbennig tlodi plant; diogelwch cymunedol, creu swyddi ac addysg a hyfforddiant. Mae wedi cyflenwi’r ymgysylltiad sy’n angenrheidiol i gynnal rhaglen lwyddiannus yn seiliedig ar wybod yr anghenion cywir, cyfateb gwasanaethau a chyflenwi gydag anghenion lleol unigol drwy ymgysylltu â chymunedau lleol oherwydd eu bod wedi eu lleoli yn yr ardal, a gweithio gyda grwpiau cymunedol lleol eraill fel Cymunedau yn Gyntaf Malpas i gyflenwi rhywfaint o’r cymorth sy’n angenrheidiol.

 

Mae’r canlyniadau wedi bod yn gadarnhaol ac yn galonogol iawn.O’r 26 o bobl ifanc a ddechreuodd y rhaglen y llynedd, mae 21 yn dal i gymryd rhan yn y rhaglen Learn-a-bout, gan symud tuag at gyflawniadau addysgol pellach, gyda rhai o’r bobl ifanc wedi ennill 5 neu 6 TGAU, lle na fyddent fel arall wedi cyflawni unrhyw beth. Mae datblygiadau addysgol eraill yn cynnwys lleoliadau gwaith i’r bobl ifanc mewn meithrinfeydd i blant, cartrefi hen bobl a salonau trin gwallt, yn ogystal â gweithio tuag at ennill lle yn llwyddiannus mewn coleg. Mae gweithio mewn partneriaeth gyda’r heddlu wedi rhoi cyfle i gael golwg ddyfnach ar batrwm troseddol y bobl ifanc hynny sy’n ymwneud â’r rhaglen. Mae’r adborth oddi wrth yr heddlu unwaith eto wedi bod yn llwyddiant mawr, ac nid yw’r bobl ifanc wedi aildroseddu ers bod yn rhan o’r rhaglen. Mae’r manteision tymor hir i’r bobl ifanc a’u cymunedau yn edrych yn dda ac yn addawol.

 

Roedd y rhaglen yn weddol heriol ar adegau, ond bu’n fodel dysgu gwych i bawb oedd yn cymryd rhan gan gynnwys tîm y staff a roddodd o’u gorau i gyflenwi’r gwasanaeth hwn. Yn nhermau cadw’r bobl ifanc, cynigiwyd ysgogiadau ariannol o ddechrau’r rhaglen, ond daeth yn eglur nad dyma oedd yr unig ysgogiad iddynt barhau gyda’r rhaglen. Ond yn ystod cyflenwi’r rhaglen, daeth yn amlwg yn fuan fod hiliaeth ymysg y grŵp o bobl ifanc yma yn broblem sylweddol. Gweithiodd y tîm Cymunedau yn Gyntaf, ynghyd â SEWREC (Cyngor Cydraddoldeb Hiliol De Ddwyrain Cymru), gyda’r grŵp i drafod rhagdybiaethau mwy cadarnhaol o gymunedau lleiafrifol eraill. I sicrhau bod ymddygiad y bobl ifanc yn briodol ac yn cael ei reoli yn well, rhoddwyd contractau ymddygiad iddynt a oedd yn para drwy gydol eu hamser ar y rhaglen - byddai unrhyw gamymddwyn yn golygu y byddent yn colli eu lle ar y rhaglen a’r ysgogiadau a’r cymorth oedd yn mynd gyda hynny.

 

Ond gall yr adnoddau sy’n angenrheidiol i gyflenwi’r rhaglen yn llwyddiannus, yn arbennig amser y staff, fod yn sylweddol. Mae Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Betws Casnewydd wedi cyflenwi’r gweithgareddau hyn yn ychwanegol at eu rhaglen arferol o gymorth ac nid oeddent yn gwerthfawrogi’n llwyr ar y dechrau beth oedd lefel yr ymrwymiad staff oedd yn angenrheidiol i gefnogi 26 o unigolion ifanc. Mewn rhaglenni yn y dyfodol, byddai’r tîm staff yn gweithio gyda llai o bobl ifanc i sicrhau rhaglen o gymorth a fyddai wedi ei theilwrio yn well ac un a fyddai yn fwy effeithiol. O’r prosiect peilot hwn, ceir tystiolaeth sylweddol o’r angen a’r llwyddiant a ddaw yn sgil cyflenwi’r rhaglen yn barhaus; ond fel arfer, daw hyn gyda’r angen i gael cyllid tymor hir i sicrhau llwyddiant y rhaglen.

 

Un o lwyddiannau allweddol y prosiect hwn fu gweithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau eraill sy’n fwy profiadol yn eu rôl arbennig. Er enghraifft, mae gweithio gyda’r heddlu lleol wedi dod â mantais fawr drwy gefnogi rhai o’r bobl ifanc mwyaf difreintiedig a’u llywio drwy raglen wedi ei strwythuro. Sylweddolwyd os cedwir unigolion ifainc o’r fath yn brysur ac os cefnogir hwy yn effeithiol, nid yn unig y byddan nhw yn elwa ond y bydd y gymuned y maent yn byw ynddi yn elwa yn ogystal – sy’n gorfod bod yn beth da iawn! Mae’r heddlu lleol wedi gwerthfawrogi’r cymorth hwn ac o ganlyniad wedi ymuno â Bwrdd Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf i ddod â mwy o ffocws i ddatblygiad y gymuned. Mae hwn wedi bod yn brosiect sy’n cael ei gynnal yn lleol, yn seiliedig o fewn ac yn cael ei gyflenwi yng nghalon y gymuned. Mae staff y prosiect wedi elwa o’r profiad o weithio gyda phobl ifanc o dan anfantais. Maent wedi dod i’w hadnabod yn bersonol ac mae’r staff wedi dod i gael eu hadnabod fel rhai sydd yno i roi cefnogaeth wirioneddol i’r gymuned. Mae’r bartneriaeth wedi sylweddoli pwysigrwydd cynnal cynlluniau lleol i’r bobl leol.... a hefyd yr angen i gefnogi pobl ifanc pan fo pethau yn mynd yn anodd!

 
 

I gael gwybodaeth bellach am y rhaglen lwyddiannus hon, cysylltwch â:

Caren White, Gweithiwr Datblygu Cymunedol

Cydgysylltydd Cymunedau yn Gyntaf Betws Casnewydd

Ffôn: 01633 856623
Ebost: comdev1@btconnect.com

 

Download the Bettws Communities First Case Study in Welsh doc

Bettws Newport

Comments

ArrowMethu dod o hyd i'r wybodaeth yr ydych ei angen? Request information

 


Welsh Assembly Government