Rhoir dechrau gorau mewn bywyd i ieuenctid De Penlan!
Mae Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Penlan wedi ymgysylltu ac wedi gweithio’n llwyddiannus gyda phobl ifanc Penlan i ddarparu llais iddynt mewn gweithgareddau cymunedol lleol. Mae’r prosiect yn trafod materion fel iechyd a maeth gyda’r bobl ifanc, gan roi cyfle iddynt gael gwell bywyd yn y dyfodol.
Cyd-fynd â Fframwaith Gweledigaeth Cymunedau yn Gyntaf: Mae’r prosiect yn cefnogi Thema Tlodi Plant y Fframwaith Gweledigaeth yn bennaf.
Nododd Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Penlan angen am well darpariaeth i ieuenctid yn ardal De Penlan. Nodwyd hefyd gartref posib i’r prosiect ar ffurf y ganolfan gymunedol leol. Gan weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau lleol gan gynnwys y Gwasanaeth Ieuenctid a Play Right (canolfan adnoddau cymunedol a leolir yn Abertawe i gefnogi anghenion pobl ifanc o ran chwarae, hamdden ac addysg), sefydlodd Cymunedau yn Gyntaf Penlan Brosiect Ieuenctid Penlan yn Ionawr 2009.
Mae’r prosiect yn anelu at sicrhau bod pobl ifanc yn cymryd rhan mewn penderfyniadau a gweithgareddau lleol sy’n cymryd eu lle o fewn Cynllun Gweithredu Cyffredinol Cymunedau yn Gyntaf Penlan. O fewn yr ychydig wythnosau cyntaf, cymerodd y grŵp (a oedd yn cynnwys 16 o bobl ifanc o’r gymuned leol) ran mewn creu timau a gweithgareddau i osod rheolau. Yna cymerwyd rhan mewn penwythnos o weithgareddau i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder. Parhaodd y prosiect ieuenctid ar sail wythnosol, gan weithio ar weithgareddau penodol gan gynnwys cyflawni prosiect ymchwil amgylcheddol yn ystod gwyliau’r haf. Mae’r cynlluniau hyn hefyd wedi arwain at brosiect celfyddydau a ddangoswyd yn Theatr Taliesin, Abertawe.
Cynhelir y prosiect o hyd bob nos Lun ac fe’i hwylusir gan weithiwr ieuenctid a Gweithiwr Datblygu Cymunedau yn Gyntaf. Canolbwyntiodd y prosiect yn ddiweddar ar faeth, gan hyrwyddo byw yn iach i’r bobl ifanc. Mae rhai o’r bobl ifanc hefyd wedi mynd ymlaen i wirfoddoli ar weithgareddau cymunedol eraill er budd Penlan.
Mae’r prosiect yn bodloni Thema Tlodi Plant y Fframwaith Gweledigaeth Cymunedau yn Gyntaf, ac yn gwneud hynny yn bendant iawn. Drwy roi dechrau da mewn bywyd i’r bobl ifanc, mae Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Penlan yn deall y manteision a all ddod o gefnogi eu gweithgareddau chwarae a chymdeithasol. Mae’r prosiect yn bodloni nifer o ganlyniadau allweddol Cynllun Gweithredu Cymunedau yn Gyntaf Penlan – Pobl Ifanc. Mae’r prosiect wedi cynyddu mynediad i bobl ifanc Penlan at raglenni sy’n cael eu cynnal yn lleol (Canlyniad 1), ac wedi cynyddu sgiliau a hyder y bobl ifanc sydd yn y perygl mwyaf o droseddu i gymryd rhan yn eu cymuned (Canlyniad 2). Mae’r prosiect yn cefnogi Cynllun Plant a Phobl Ifanc Abertawe 2008-11, yn arbennig Blaenoriaeth 3, o ran gwella cyfleoedd i bobl ifanc i’r rhai hynny sy’n byw mewn tlodi. Drwy ymgysylltiad parhaus â’r bobl ifanc leol a sicrhau eu bod nhw yn cymryd rhan yn y prosesau o lunio penderfyniadau ynglŷn â’r ffordd orau o’u cefnogi, mae Cymunedau yn Gyntaf Penlan wedi cyflenwi rhaglen lwyddiannus o gymorth gyda’r bwriad o barhau gyda’r cymorth hwnnw y tu hwnt i oes Cymunedau yn Gyntaf.
Mae Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Penlan wedi sefydlu cyswllt clir gyda’r grŵp o bobl ifanc yn yr ardal, oedd yn anodd cael gafael arnynt a’u cadw yn flaenorol. Y prif ffactor llwyddiant fu’r lefelau uchel o ymgysylltu a fu gyda’r bobl ifanc i ddeall eu hanghenion, gan arwain at well cyfathrebu gydag ieuenctid Penlan. Mae aelodau hŷn y gymuned sy’n ddefnyddwyr y ganolfan gymunedol leol wedi cyfarfod gyda a hyd yn oed wedi cael cyflwyniadau gan y bobl ifanc, gan ffurfio gwell perthynas gyda nhw. Mae hyn wedi gwella cysylltiadau cymunedol yn yr ardal ac wedi gwella’r berthynas rhwng y cenedlaethau wrth hyrwyddo parch tuag at ei gilydd yr un pryd. Mae’r bobl ifanc yn fwy hyderus ac wedi sefydlu eu grŵp eu hunain gyda’u rheolau a’u cyfeiriad eu hunain. Mae gan y bobl ifanc bellach lais cryf a rhan bwysig i’w chwarae ym Mhartneriaeth Penlan, gyda’r gallu i gyfrannu at y Bartneriaeth, gan ddarparu syniadau ar gyfer prosiectau. Maent yn defnyddio eu sgiliau tîm a ddatblygwyd i ddod â newid cadarnhaol iddyn nhw eu hunain a chymuned leol Penlan.
I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen hon, cysylltwch â:
Andrew Chapman, Tîm Cymunedau yn Gyntaf Penlan
| Download the Penlan youth project Communities First Partnership Case Study Welsh | doc |
|
|
Comments



Register and create your free account to post comments