Sefydliad Gwirfoddol Evanstown llwyddiant llawr gwlad
Mae’r prosiect wedi ymgysylltu â ac ymrymuso trigolion lleol Evanstown i gymryd mwy o berchnogaeth ar wella eu hardal a’r amgylchedd lleol drwy ddod â balchder yn ôl i’r gymuned leol y maent yn byw ynddi.
Cyd-fynd â Fframwaith Cymunedau yn Gyntaf: Mae’r prosiect yn cefnogi Thema Amgylcheddol y Fframwaith Gweledigaeth yn bennaf.
Dechreuodd Sefydliad Gwirfoddol Evanstown (EVO) fel grŵp gwirfoddol lleol bychan yn 2006. Yna, ymwelodd nifer o aelodau’r gymuned â swyddfa Cymunedau yn Gyntaf yn Evanstown ar wahân i gwyno am yr amgylchedd yr oeddent yn byw ynddo. Ar ôl derbyn nifer o gwynion am sbwriel a gollwng sbwriel yn anghyfreithlon, trefnodd y Cydgysylltydd ar y pryd gyfarfod cyhoeddus ac yn fuan ffurfiwyd grŵp ymgyrchu – a dim ond y dechrau oedd hynny!
Galwodd y grŵp ar y gymuned, aelodau etholedig a gweithwyr cymunedol i ymuno mewn amnestau ar gyfer sgipiau ac ymgyrchoedd i lanhau cymunedau a sefydlwyd perthynas gynhyrchiol yn fuan gyda Cadwch Gymru’n Daclus a nifer o swyddogion yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae Cymunedau yn Gyntaf wedi cefnogi’r grŵp gyda hyfforddiant i ffurfio cynllun gweithredu amgylcheddol (2008), cynllunio digwyddiadau (dyddiau hwyl) ac wedi galluogi cyrsiau hyfforddi penodol fel Cymorth Cyntaf, Hylendid Bwyd a Gwarchodaeth Plant i’r gymuned leol.
Yng ngwanwyn 2009, dechreuodd EVO grŵp o Geidwaid Ifainc gyda’r nod o addysgu plant, pobl ifanc a’u teuluoedd ynglŷn â bod â mwy o falchder ynghylch a mwy o berchnogaeth ar eu hamgylchedd. Gyda Chymunedau yn Gyntaf, cysylltwyd â’r ysgol gynradd leol a enillodd dŵls glanhau a garddio newydd drwy grant yr ymgeisiwyd amdani gan EVO.
Yn haf 2009, dewiswyd EVO gan y cyngor sir ar gyfer wythnos Trefi Taclus a nododd y grŵp nifer o safleoedd o fewn y gymuned i gyflawni gwaith gyda’r tîm Trefi Taclus. Buont yn helpu i lenwi naw sgip mewn wythnos a dechreuwyd cynllunio dôl i flodau gwyllt, y cytunodd yr elusen tai cymdeithasol Valleys to Coast dalu amdani. Yn hydref 2009, cwblhaodd EVO ardd gymunedol y tu allan i ganolfan gymunedol Evanstown gyda chymorth Trefi Taclus.
Gyda chefnogaeth Cymunedau yn Gyntaf, llwyddwyd i ennill grantiau ar gyfer gweithgareddau cymunedol drwy Gronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf a chynlluniwyd digwyddiadau i recriwtio aelodau newydd, yn ogystal ag ennill offer TG newydd i sicrhau gwell cyfathrebu. Trefnwyd sesiynau penodol ar TG a sesiynau ar ysgrifennu cyfansoddiadau i ennill sgiliau newydd gyda chymorth Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r grŵp bellach yn gweithio gydag ystod o bartneriaid, gan gynnwys Valleys to Coast, Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Blackmill, Cadwch Gymru’n Daclus, yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt a nifer o adrannau yn y cyngor sir, fel priffyrdd, gwastraff a pharciau a meysydd chwarae i dargedu gwaith penodol i adfywio’r gymuned.
Mae EVO hefyd yn gweithio gyda Chymunedau yn Gyntaf, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Valleys to Coast a’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt i drawsnewid hen dip oedd wedi gordyfu a’i droi yn warchodfa natur sydd yn brosiect enfawr!
Mae Cymunedau yn Gyntaf wedi gweithredu fel galluogwr i’r grŵp a rhoddwyd cymorth parhaus i’r grŵp gan wirfoddolwyr ymroddedig. Y brif Thema y mae’r prosiect yn ei chefnogi o Fframwaith Gweledigaeth Cymunedau yn Gyntaf yw’r un Amgylcheddol, yn arbennig yr is-thema o wella’r Amgylchedd Adeiledig.Mae lefelau’r ymgysylltiad wedi bod yn uchel, ac mae’r trigolion lleol wedi bod yn ymwneud â glanhau eu hamgylchedd lleol ac y maent yn parhau i gadw’r lefel hon o ymrwymiad yn uchel gyda chefnogaeth grwpiau cymunedol lleol wrth gyflenwi gweithgareddau. Mae EVO wedi datblygu i fod yn grŵp sgilgar o bobl sydd wedi eu hymrymuso ar lawr gwlad, gyda chysylltiadau cryf gyda phartneriaid allweddol. Drwy’r ymgysylltiad hwn, mae’r grŵp yn un annibynnol - enghraifft gadarnhaol iawn o gyfranogiad Cymunedau yn Gyntaf - oherwydd eu bod wedi eu hymrymuso, yn wybodus, ac mae ganddynt ethos cryf o weithio mewn partneriaeth ac mae ganddynt y potensial i gynnal eu gweithgareddau am gyfnod hir yn y dyfodol. Oherwydd hynny ychydig o ffyrdd sydd yna lle byddai ymyrraeth gan Gymunedau yn Gyntaf yn briodol y pryd hwn.
Mae’r canlyniadau wedi bod yn gadarnhaol ac yn galonogol iawn, a barn gyffredinol y trigolion yn Evanstown yw bod y gymuned yn cael gwared ar fwy o’i sbwriel o ganlyniad i’r 10 o ymgyrchoedd glanhau o fewn y gymuned a bod yr ardd gymunedol newydd, yn ogystal â gweithgareddau eraill, yn gwneud aelodau’r gymuned yn fwy balch o’u hamgylchedd. Mae nifer o weithgareddau amgylcheddol a gyflwynwyd ac a gyflawnwyd gan y grŵp a gwirfoddolwyr wedi arwain at well defnydd a defnydd mwy diogel o fannau cyhoeddus.
Mae mwy o ‘gyfalaf cymdeithasol’ yn y gymuned yn dilyn y digwyddiadau cymunedol, gyda mwy o berchnogaeth gymunedol. Mae’r prosiect wedi creu mwy o gyfranogiad cymunedol mewn gweithgareddau eraill gan drigolion lleol a’u ffrindiau, megis cwmni bwyd cydweithredol, clybiau plant, Tai Chi a cherdded Llychlynnaidd. Mae hyn yn helpu i gwtogi ar dlodi, ynysu ac allgau cymdeithasol o fewn yr ardal. Mae’r gwaith caled hwn wedi talu ar ei ganfed gydag aelodau’r grŵp yn helpu i ddatblygu’r cais ‘Llwybrau Diogelach yn y Gymuned’ ar gyfer y ward, a arweiniodd at grant o £218,000. Mae EVO yn grŵp llawr gwlad gwirioneddol sydd â’r gallu i barhau i ddatblygu gweithgareddau am flynyddoedd lawer i ddod.
I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen hon, cysylltwch â:
Cydgysylltydd Ardal Evanstown (Ward Blackmill)
| Download the Evanstown Communities First Partnership Case Study Welsh | doc |
|
|
Comments



Register and create your free account to post comments