Chwilio
Croeso i to Canolfan Wybodaeth Cymunedau`n Gyntaf
03/09/2010

Username

Password

Create new account

Helo
Pa wybodaeth a chymorth y mae ar eich partneriaeth gymunedol eu hangen?

Croeso i wefan newydd Canolfan Gwybodaeth Cymunedau yn Gyntaf. Datblygir y safle drwy gydweithrediad â Phartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf felly bydd arnom angen eich mewnbwn chi.

Seilir y strwythur ar Fframwaith y Weledigaeth Gymunedol newydd a bydd adnoddau gwybodaeth a modelau o arfer da i’w cael o fewn un o’r adrannau. Rydym hefyd wedi ychwanegu adran arall, ‘Arfer o ran Adfywio’ lle bwriadwn gyflwyno’r pynciau a’r damcaniaethau diweddaraf ynglŷn ag adfywio i chi.

Mae arnom angen eich cyfraniad i wneud i’r adnodd hwn weithio felly... cofiwch gysylltu!

WCVA

Bydd WCVA yn darparu elfennau cyngor a chymorth ynghyd â hyfforddi a datblygu cymorth Cymunedau yn Gyntaf. Y rhif ffôn cyswllt ar gyfer y ddwy elfen hon yw’r un rhif llinell gymorth a ddefnyddiwyd gan Rwydwaith Cefnogi Cymunedau yn Gyntaf, sef 0800 587 8898. Os nad yw staff y Ddesg Gymorth yn gallu delio'n uniongyrchol â'ch cais, fe fyddan nhw’n ei gyfeirio atom ni, ac fe wnawn ni gysylltu â chi i drafod pa gymorth rydych chi ei angen, a sut y gallai hyn gael ei ddarparu.

Hwn yw'r un rhif llinell gymorth sydd hefyd yn delio ag ymholiadau am Gronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf. Fe allwch chi hefyd gysylltu â ni ar help@wcva.org.uk

Comments

ArrowMethu dod o hyd i'r wybodaeth yr ydych ei angen? Request information

 


Welsh Assembly Government