Chwilio
Croeso i to Canolfan Wybodaeth Cymunedau`n Gyntaf
03/09/2010

Username

Password

Create new account

Am y wefan hon
Bydd gwefan Cymunedau yn Gyntaf yn dod yn adnodd amhrisiadwy i bob partneriaeth.

Rhagwelwn y bydd y wefan Cymunedau yn Gyntaf hon yn dod yn adnodd amhrisiadwy i bob partneriaeth. Bydd yn tyfu wrth i unigolion a byrddau partneriaeth ofyn am wybodaeth am gyflenwi’r Cynllun Gweithredu, modelau o arfer da neu declynnau i gyflenwi’r Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn well.

Byddwn yn gweithio’n agos gyda ChGGC (WCVA) sy’n darparu’r cyngor ac elfen datblygu hyfforddiant y gwaith hwn i roi cymorth o ansawdd uchel, perthnasol ac amserol i chi, sef partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf, pan fo arnoch ei angen ac mewn ffurf y gallwch ei ddefnyddio.

Bydd y wefan yn cael ei diweddaru yn rheolaidd gyda newyddion o daflenni gwybodaeth a digwyddiadau’r Cynulliad Cenedlaethol. Bydd e-fwletin misol yn cael ei anfon at holl Bartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf, sy’n tynnu eich sylw at beth sy’n newydd ar y wefan, ond anelwn at greu adnodd y byddwch yn ymweld ag ef yn llawer mwy rheolaidd.

Gwnaed y gwaith o ddefnyddio’r wefan mor hawdd â phosibl ond byddem yn croesawu eich adborth a’ch barn ynglŷn â hyn.

Credwn fod gan ymwelwyr i’r wefan ddisgwyliadau uchel. Bwriadwn fodloni eich disgwyliadau.

Bydd y wefan yn tyfu ac yn datblygu o ddeialog rhyngom ni felly a fyddech cystal â dweud wrthym beth sydd arnoch ei angen, beth yr hoffech ei weld a beth yw eich barn am y safle.

Comments

ArrowMethu dod o hyd i'r wybodaeth yr ydych ei angen? Request information

 


Welsh Assembly Government