Chwilio
Croeso i to Canolfan Wybodaeth Cymunedau`n Gyntaf
03/09/2010

Username

Password

Create new account

Beth yw Cymunedau yn Gyntaf?

Cymunedau yn Gyntaf yw rhaglen flaenllaw Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwella rhagolygon ac amodau byw trigolion y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Mae’n seiliedig ar yr egwyddor mai gwahanol ffactorau, fel diffyg llwyddiant mewn addysg, tai ac amgylcheddau gwael, camddefnyddio sylweddau, prinder swyddi lleol, systemau budd-daliadau, rhagfarnau yn erbyn pobl a lleoedd etc sydd yn creu tlodi ac anfantais. Os ydym am fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldebau, rhaid i ni ddeall y rhesymau pam y maent yn bodoli. Mae Cymunedau yn Gyntaf yn rhoi cyfle i’r bobl sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig ac i’r asiantaethau sy’n darparu gwasanaethau ar eu cyfer, i edrych ar sut y mae tlodi yn effeithio mewn gwirionedd ar fywydau bobl gan ddysgu a gweithio gyda’i gilydd er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa. Mae Cymunedau yn Gyntaf yn eu helpu i wynebu’r rhwystrau real a dychmygol sy’n eu hatal rhag gwireddu eu potensial a chreu newidiadau yn y cymunedau lle maent yn byw. Nod y rhaglen yw cefnogi cymunedau, grwpiau ac unigolion a’u helpu i ddweud eu dweud a defnyddio’u sgiliau a phrofiadau i newid, herio, trafod, perswadio a chynllunio ar y cyd er lles eu cyunedau.

Cafodd y rhaglen ei lansio yn 2001, ac ar y dechrau bu’n gweithio gyda 142 o gymunedau yn y 100 ardal fwyaf difreintiedig yn ôl Mynegrif Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2000, 32 o bocedi o anfantais a 10 o Gymunedau Buddiant. Yn sgil cyhoeddi MALlC 2005, cafodd 46 o ardaloedd ychwanegol eu nodi fel ardaloedd sydd yn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru, a chawsant eu gwahodd i wneud cais i gymryd rhan yn y Rhaglen. Bellach mae yna 188 o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, rhai ohonynt yn gweithio gyda Phartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf gyda’r bwriad o gael eu cynnwys yn y rhaglen, a rhai eraill, sef yr ardaloedd mwy, sydd am greu eu Partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf eu hunain.

Mae’r rhaglen bellach yn symud i gyfnod newydd a fydd yn canolbwyntio’n fwy ar ganlyniadau ac ar fynd i’r afael ag achosion ac effeithiau tlodi. Yn sgil cynnal gwerthusiad ac ymgynghoriad, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i barhau i fuddsoddi er mwyn gwireddu ei hymrwymiadau yn unol â Chymru’n Un. Y weledigaeth ar gyfer cyfnod nesaf Cymunedau yn Gyntaf yw y bydd yn sbarduno pobl leol i gyfrannu’n ymarferol at yr ymdrech i adfywio’u cymunedau, yn unol â’u blaenoriaethau lleol eu hunain a blaenoriaethau cyrff statudol fel Llywodraeth y Cynulliad, awdurdodau lleol a’r cyrff iechyd.

Comments

ArrowMethu dod o hyd i'r wybodaeth yr ydych ei angen? Request information

 


Welsh Assembly Government