Cadwr Rhai Bach yn Gynnes y gaeaf hwn!
Hwyl i rai o Dan 5 yn cynhesu
Daeth ein diwrnod Hwyl Blynyddol i rai o dan 5 gwn i gannoedd o wynebau a chyfle i deuluoedd a ffrindiau gyfarfod i gilydd ar achlysur hapus.
Meddai Anne Driscoll, o dm Cymunedau yn Gyntaf Elai a Chaerau Croesawyd 507 o rai bach au teuluoedd. Rhoddodd y rhieni ar gofalwyr adborth cadarnhaol iawn i ni gydar rhan fwyaf yn dweud bod y digwyddiad yn ffantastig ac yn gofyn a ellid ei gynnal yn fwy aml. Dim ond 5 a ddywedodd ei fod yn Iawn, yn unig gydag 1 yn dweud ei fod yn rhy llawn, sylw yr ydw i yn ei nodi fel sylw cadarnhaol.
Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghanolfan Hamdden Western sydd newydd ei hailagor ac roedd yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth. Arolygodd staff y Ganolfan Hamdden y Teigr Gwynt enfawr ar lle ar gyfer chwarae meddal. Helpodd Recreate (siop gwastraff Caerdydd) y plant i wneud coronau a hudlathau. Cynigiodd y Ganolfan Plant Integredig gyfle ir plant wneud modelau gyda thoes. Gwnaeth SNAP brintiau llaw, ac aeth Dechrau Da ar Llyfrgell ati i actio rhai or storau. Roedd Iaith a Chwarae yn gyfrifol hefyd am rigymau a chlapio. Yn yr Ardal Ymlacio cafodd y mamau eu hewinedd wedi eu trin a chawsant fwynhau tylinor pen mewn dull Indiaidd.
Roedd gan Dechraun Deg, Ymwelyddion Iechyd, Genesis, Undeb Credyd Caerdydd, Tai Cadwyn, yr Uned Benthyg Arian Anghyfreithlon, y Ganolfan Cynghori, cerdyn hamdden gostyngol MAX, Gweithredu Dros Ynni De Ddwyrain Cymru i gyd wybodaeth, gweithgareddau hwyl, cyngor a nwyddau iw cynnig fel rhoddion. Nododd pob asiantaeth fod llawer o bobl wedi mynegi diddordeb ac wedi arwyddo i dderbyn eu hamrywiol wasanaethau. Mae 4 o dadau yn mynd i ddechrau mynd i Glwb Dydd Sadwrn Tadaun Gyntaf yn y Ganolfan Plant.
Credwn mair allwedd ir llwyddiant yw faint o waith a wnawn yn rhoi cyhoeddusrwydd ir digwyddiad. Roedd gwybodaeth mewn gwahanol ffurfiau yn helpu i gychwyn y gadwyn oedd yn lledaenu gwybodaeth drwyr gair llafar. Gosodwyd posteri enfawr fflwrolau ar ein dau hysbysfwrdd cymunedol y tu allan i swyddfeydd post dair wythnos cyn y digwyddiad. Dilynwyd hyn gan bosteri yn holl ffenestrir siopau ac asiantaethau yn yr ardal, rhoddwyd hysbysiad bach yn y South Wales Echo, tudalen lawn yn yr Ely Grapevine a dosbarthwyd 5000 o daflenni mewn meddygfeydd meddygon teulu, gwasanaethau plant ac ysgolion meithrin a chynradd lleol.
Roeddem yn ddiolchgar am grant o 500 oddi wrth wobr Feel the Heat NEA tuag at gost y digwyddiad hwn.
Iona Gordon, Cydlynydd Elai a Chaerau
Comments



Register and create your free account to post comments