Challenge Wales Her Cymru Hyfforddiant Hwylio yng Nghymru i Gymry ifanc
Mae "Challenge Wales-Her Cymru" wedi ymrwymo i ddatblygu sgiliau ieuenctid (12-25 oed). Cyflawnir hyn drwy hyfforddiant hwylio ar gwch hwylio rownd y byd 72 troedfedd, "Challenge Wales-Her Cymru". Gellir dysgu sut i adeiladu timau, cyfathrebu, parchu eraill ac ennill hunan-hyder dan amodau dysgu hwylio a hynny ar gwch hyfforddi hwylio mwyaf Cymru
Tawelwch ymhlith y criw wrth aros .... ac aros...am yr arwydd. Dyna'r helm yn galw "Ready About", un o'r criw'n ateb "Starboard runner coming back", y gweddill yn llamu at eu gwaith ac, ar ôl eiliad o oedi, yn ateb fel un - "Barod/Ready". Yr hel yn galw "Lee-Oh" a'r gwch hwylio rasys 72 tr. ‘Challenge Wales-Her Cymru’ yn tacio drwy 90 gradd ac yn hwylio'n llyfn i'r cyfeiriad newydd.
Gellid maddau i chi am feddwl mai criw o hwylwyr rasio proffesiynol ydy'r criw, ond dyma i chi grŵp o Gymry ifanc (heb fod mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant) oedd, ddwy awr ynghynt, heb erioed fod yn hwylio. Gall yr ieuenctid ar fwrdd 'Challenge Wales-Her Cymru', fel rhan o raglen hyfforddiant hwylio, fod o'r Gogledd, y De neu o rannau gwledig Cymru ac efallai heb fod wedi hwylio erioed o'r blaen. Mae 'Challenge Wales-Her Cymru' yn hwylio â chriw o 6 a hyd at 10 o bobl ifanc gyda dau arweinydd grŵp / mentor.
Gall y teithiau hwylio gynnwys taith diwrnod, dros nos neu fordaith pum diwrnod. Gall teithiau hwy ganiatáu i bobl gael profiad o alw mewn porthladdoedd gwahanol, gweld mwy o arfordir Cymru a'u galluogi o bosib i gael tystysgrif Criw Cymwys gan gymdeithas hwylio'r RYA. Mae cychod tebyg yn hyfforddi yn Lloegr a'r Alban ond bellach does dim rhaid i ieuenctid Cymru deithio i'r Solent neu tu hwnt i gael profiad cyffelyb gan fod 'Challenge Wales-Her Cymru' ar eu stepen drws. Gan obeithio y gwelwn ni chi'n hwylio gyda ni'n fuan.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Vicky Williams, Ymddiriedolydd Challenge Wales-Her Cymru
Ffôn: 029 20 705 749 E-bost:
Vicky@challengewales.org
www.challengewales.org
Comments



Register and create your free account to post comments