Chwilio
Croeso i to Canolfan Wybodaeth Cymunedau`n Gyntaf
10/09/2010

Username

Password

Create new account

Cymunedau yn Gyntaf ar Undebau Credyd yn Cydweithio i Annog Pobl i Gynilo

Oherwydd y ‘wasgfa gredyd’, gwaethygu y mae problemau ardaloedd difreintiedig ledled y byd. Mae partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf wedi bod yn cydweithio’n agos ag Undeb Credyd Castell-nedd Port Talbot i sicrhau bod pobl leol yn cael yr help a’r cyngor sydd eu hangen arnynt yn ystod y cyfnod anodd hwn. Wedi ymgynghori â’r gymuned leol, penderfynodd partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Gorllewin Llansawel mai un o’i blaenoriaethau oedd sicrhau bod gwasanaethau undeb credyd ar gael yn lleol. Yn sgil y cydweithio agos a fu rhwng y bartneriaeth a’r undeb credyd, mae’r gymuned bellach yn cael defnyddio pwynt casglu yn swyddfa leol y cyngor, yn ogystal â defnyddio’r pwyntiau casglu yn Llansawel, Banwen, Cwmafan, Canol Tref Castell-nedd, Sandfields/Aberafan, Blaenau Cwm Afan ac Ystalyfera. Hefyd, cafodd dwy ysgol gynradd leol help i drefnu eu pwyntiau casglu eu hunain, fel bod y disgyblion pedair blwydd oed a hŷn yn ysgolion cynradd Brynhyfryd a Llansawel yn cael dechrau cynilo gyda chyn lleied o arian â £1 yr wythnos. Ar hyn o bryd, mae’r bartneriaeth yn gweithio gyda’r ysgol uwchradd leol i ddatblygu gwasanaeth tebyg er mwyn i bobl ifanc allu parhau â’r arfer o gynilo trwy gydol eu dyddiau ysgol. Yn y cyfamser, bu tîm Cymunedau yn Gyntaf yn Sandfields ac Aberafan yn gweithio gyda Thîm Adnewyddu Ardal Dwyrain Sandfields ac Aberafan, Cyngor Sir Bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot, I ddathlu lansio’u pwynt casglu newydd hwythau. Roedd y digwyddiad hwn, sef ‘Money Matters’ yn dod â nifer o fudiadau ynghyd i roi gwybodaeth ddefnyddiol am lythrennedd ariannol, am yr hawl i fudddaliadau, ac am reoli dyled, ac arbed ynni ac arian. Hefyd roedd arddangosfeydd Cooking on a Budget a gweithdai Grow Your Own Groceries a oedd yn rhoi pecynnau am ddim i bobl roi cychwyn arni. Wrth siarad yn y lansiad, pwysleisiodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, Dr Brian Gibbons AC, “pa mor bwysig yw hi fod yr undebau credyd yn gweithio’n agos â phartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf gan fod hyn yn hanfodol i’r ymgyrch i ddileu anllythrennedd ariannol ac allgáu ariannol”. Mae hon yn neges ganolog yng ngweithgarwch partneriaethau Castell-nedd Port Talbot, gyda chynlluniau eisoes ar y gweill i drefnu digwyddiad arall yng Nghastell-nedd i sicrhau bod rhieni ifanc yn gwybod am y cyngor a’r help ariannol sydd ar gael iddynt, ac i’w perswadio bod yna fanteision i reoli eu harian yn iawn.

 

I gael mwy o fanylion am Undeb Credyd Castell-nedd Port Talbot, ffoniwch (01639) 632100 neu ewch I www.npt.gov.uk/communitiesfirst.

 

 

Comments

ArrowMethu dod o hyd i'r wybodaeth yr ydych ei angen? Request information

 


Welsh Assembly Government