Chwilio
Croeso i to Canolfan Wybodaeth Cymunedau`n Gyntaf
10/09/2010

Username

Password

Create new account

Dathlu Penblwydd Cyntaf Cymunedau yn Gyntaf Bracla
Cymunedau yn Gyntaf Bracla yn dathlu eu pen-blwydd cyntaf a phrosiect cymunedol llwyddiannus yn ymwneud a chydraddoldeb ac amrywiaeth gyda Carwyn Jones AC

Ar Fehefin 4 cynhaliwyd digwyddiad i ddathlu dau beth. Y cyntaf oedd pen-blwydd cyntaf Cymunedau yn Gyntaf Bracla a’r ail oedd dangos ffilm gymunedol oedd yn rhoi sylw i’r gymuned yn cymryd rhan mewn prosiect cydraddoldeb ac amrywiaeth rhwng y cenedlaethau.

 

Roedd y prosiect ei hun yn cynnwys aelodau o’r gymuned yn amrywio o 8 – 70 oed ac fe’i hwyluswyd gan hyfforddiant “Options”. Roedd y thema yn ymwneud â hyrwyddo a goddef “gwahaniaeth” mewn pobl o bob maes mewn bywyd. Bu i’r agwedd o’r prosiect oedd yn ymwneud â chynnwys pob oed sbarduno pobl i ofyn cwestiynau a chael atebion am wahaniaethau mewn cyfweliadau rhwng y cenedlaethau.

 

Cafodd y prosiect ei ffilmio ac yna ei ddangos yn y digwyddiad i nodi’r pen-blwydd i ddathlu’r cyfranogiad cymunedol a’r cyswllt â Chymunedau yn Gyntaf. Daeth llawer o asiantaethau oedd yn gweithredu fel partneriaid a llawer o aelodau’r gymuned i’r digwyddiad. Agorwyd y noson gydag ychydig eiriau gan Carwyn Jones AC.

 

Roedd pawb yn falch iawn o’r ffilm a’r bwffe a daeth â’r noson i ben.

 

Allison Pesticcio 01656 815120
Allison.pesticcio@bridgend.gov.uk
www.bracklacommunitiesfirst.btik.com

 

Comments

ArrowMethu dod o hyd i'r wybodaeth yr ydych ei angen? Request information

 


Welsh Assembly Government