Chwilio
Croeso i to Canolfan Wybodaeth Cymunedau`n Gyntaf
07/09/2010

Username

Password

Create new account

Digwyddiadau a gynigiwyd gan Cymunedau yn Gyntaf Tonyrefail

Sgiliau Byw

Hoffech chi ddysgu rhywbeth newydd ar gyfer 2009? Cynhelir cwrs sgiliau byw am 10 wythnos yn y Rhondda yn dechrau ddydd Mawrth 3 Chwefror am 12.30 tan 4.00pm. DARPERIR CINIO AM DDIM. Seilir y cwrs ar gynllunio taith neu ymweliad a bydd yn rhoi’r holl sgiliau angenrheidiol i gynorthwyo eich proses gynllunio. Gallai hyn fod yn ychwanegiad gwych i’ch CV. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch ag Adele neu Karen ar 01443 675220.

Cymraeg Llafar

Hoffech chi wella eich Cymraeg neu hoffech chi ddysgu’r sylfeini.? Mae Cymunedau yn Gyntaf wedi trefnu 2 fore coffi i ddechrau ym mis Chwefror. Bydd y dosbarthiadau yn anffurfiol iawn ac yn rhoi gallu i chi gynnal sgwrs syml. Mae’r sesiynau i gyd am ddim a darperir lluniaeth. Mae’r dosbarthiadau cyntaf yn dechrau ddydd Llun 23 Chwefror yn Rhondda Bowl ac ar ddydd Iau 26 Chwefror yng Nghapel Bethlehem yn Thomastown. Cynhelir y ddau sesiwn o 9.30am-11.30am. I gae mwy o wybodaeth neu i archebu lle cysylltwch ag Adele ar 01443 675220.

Gwefan

Mae gan ein gwefan gymunedol lawer iawn o wybodaeth a bydd y calendr cymunedol yn eich cadw mewn cysylltiad â phopeth yr ydym yn ei wneud yn ein hardal. Edrychwch arno yn www.tonyrefailcf.org.uk.

Comments

ArrowMethu dod o hyd i'r wybodaeth yr ydych ei angen? Request information

 


Welsh Assembly Government