Chwilio
Croeso i to Canolfan Wybodaeth Cymunedau`n Gyntaf
07/09/2010

Username

Password

Create new account

Diwrnod Dathlu Bywyd Gibbonsdown and Court datganiad ir wasg

Roedd diwrnod Dathlu Bywyd Cymunedau yn Gyntaf Gibbonsdown and Court yn llwyddiant mawr ym Mharc Pencoetre ddydd Gwener 29 Mai.

 

Roedd yr haul yn gwenu a daeth cannoedd o bobl draw i gael diwrnod llawn o weithgareddau gwych gan gynnwys peintio wynebau a diddanwch syrcas, dringo waliau a gwneud kebabs ffrwythau! Canolbwynt y digwyddiad oedd Bro Radio gyda’u darllediad byw a buont yn helpu i gynnal cystadleuaeth Gibby and Court’s Got Talent lle dangosodd 16 o drigolion lleol eu talent mewn eitemau o ganu, dawnsio a chomedi.

 

Bu’r Desert Divas yn dangos eu dawn gyda’u dawnsio anhygoel a rhoddodd Ysgol Taekwondo Caddoxton sioe ardderchog ymlaen.

 

Denodd pabell gwybodaeth Cymunedau yn Gyntaf ystod eang o asiantaethau i arddangos eu gwaith gan gynnwys Dash Training, Want to Work, Cymdeithas Celf y Merched, y Ganolfan Menter Gymunedol ac Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro. Meddai Aelod Cynulliad lleol y Fro a fynychodd y digwyddiad: “Fel aelod o Fwrdd Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Gibbonsdown rwy’n gwybod fod y digwyddiad hwn wedi golygu llawer o waith cynllunio ac roedd y diwrnod ei hun yn ardderchog. Roedd yn wych gweld cymaint o blant a phobl ifanc yn mwynhau’r digwyddiadau yn arbennig y sioe dalentau i bobl ifanc oedd yn awyddus i berfformio. Llongyfarchiadau i Gymunedau yn Gyntaf Gibbonsdown unwaith eto

 

Kellie Chard

Gibbonsdown and Court Communities First

Aberaeron Close

Barry

Vale of Glamorgan

CF62 9BT

Comments

ArrowMethu dod o hyd i'r wybodaeth yr ydych ei angen? Request information

 


Welsh Assembly Government