Chwilio
Croeso i to Canolfan Wybodaeth Cymunedau`n Gyntaf
07/09/2010

Username

Password

Create new account

Diwrnod hyfforddi Gem
amgueddfeydd a phobl ifainc Ystafelloedd icon, Amguedfa Genedlaethol Caerdydd

Diwrnod hyfforddi Gem - amgueddfeydd a phobl ifainc Ystafelloedd Icon,

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd 10.30am-4pm Iau 26 Tachwedd

 

Archwiliwch ffyrdd newydd a chyffrous o ddefnyddio treftadaeth a diwylliant fel themâu ar gyfer gwaith project gyda phobl ifainc. Bydd y diwrnod yn cynnwys sesiynau amrywiol:

• Cynghorion am ariannu eich project gan Adran Datblygu Amgueddfa Cymru
• Neil Reid, YMCA Hirwaun, a The Road to Tower
• Natalie Brown, Gwasanaeth Ieuenctid Casnewydd
• Hannah Davies, Cydlynydd E3 Ysgol Gyfun Treorci
• Bydd rhaglen lawn yn dilyn

 

Pam dod?
• Archwilio ffyrdd newydd o weithio gyda phobl ifainc
• Cael ysbrydoliaeth, cefnogaeth a phartneriaethau defnyddiol
• Dysgu mwy am gyfleoedd ariannu • Rhwydweithio a rhannu arfer gorau

 

Ar gyfer pwy?
• Addysgwyr o'r amgueddfeydd, y llyfrgelloedd a'r orielau
• Gweithwyr ieuenctid
• Gweithwyr datblygu'r celfyddydau
• Artistiaid cymunedol
• Awdurdodau lleol gan gynnwys timau datblygu ieuenctid Cymunedau'n gyntaf
• Unrhywun sydd â diddordeb gwneud eu gwasanaethau'n berthnasol i bobl ifainc

 

Ffi - £20 i aelodau Gem (sy'n cynnwys staff Amgueddfa Cymru), £30 i bobl nad ydynt yn aelodau. Bydd paned a chinio hefyd. Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Alun.Jones@amgueddfacymru.ac.uk

Comments

ArrowMethu dod o hyd i'r wybodaeth yr ydych ei angen? Request information

 


Welsh Assembly Government