Gorymdaith Llusernau Doc Penfro 2009
Doc Penfro yn Goleuor Nos!
Mae Grŵp Gŵyl Doc Penfro yn falch o gyflwyno eu trydedd Gorymdaith Canol Gaeaf mewn cydweithrediad gyda Chymunedau yn Gyntaf Llanion, Cyngor Tref Doc Penfro a Chymdeithas Tenantiaid a Thrigolion Bush and Park a gynhelir ddydd Gwener Rhagfyr 11 o Barc Coffa Doc Penfro.
Mae’r hwyl yn dechrau am 5pm gyda Sioe Dân Professor Panic yn rhoi cychwyn ar y gweithgareddau yn y Parc Coffa yn Bush Street. Yna bydd yr Orymdaith Llusernau yn ymgasglu ac yn gadael y Parc Coffa am 6pm gyda Siôn Corn. Bydd cludwyr y llusernau a’r cerddwyr ar stilts yn gorymdeithio drwy’r dref gyda Samba Doc, crewr cerddoriaeth gorau Doc Penfro ac yn cyrraedd y Goeden Nadolig yn Lower Meyrick Street i gael eu cyfarch gan y diddanwr lleol Neil Thomas a fydd yn arwain y canu carolau.
Os hoffech wneud llusern ar gyfer yr orymdaith mae gweithdai agored i deuluoedd gyda Space2create yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Ieuenctid Doc Penfro, ddydd Sadwrn 5 a ddydd Sul 6 Rhagfyr o 10-4 a bydd lluniaeth Nadoligaidd ar gael. Cynhelir gweithai i oedolion hefyd yn Neuadd Pater, ddydd Llun 7 Rhagfyr (2-4) a dydd Mawrth 8 Rhagfyr (1-3).
Mae croeso i bawb ymuno a gallwch alw Sarah, Cymunedau yn Gyntaf Llanion ar 0845 345 5031 am fwy o wybodaeth.
Lanterns
|
|
|
Comments



Register and create your free account to post comments