Chwilio
Croeso i to Canolfan Wybodaeth Cymunedau`n Gyntaf
03/09/2010

Username

Password

Create new account

Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol
Neges oddi wrth Ian Woodman Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol

Yr ydym yn cynnal diwrnod hyfforddi yn rhad ac am ddim ar gyfer gweithwyr cynghori a chymunedol yng Nghanolfan Busnes Conwy, dydd Gwener, 3 Chwefror.

Mae hwn yn gyfle i’r sector cynghori defnyddwyr ddysgu mwy am rôl y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol a’r cymorth y gall ei roi i aelodau o’r cyhoedd mewn achosion o anghydfodau gyda chyflenwyr gwasanaethau ariannol. Yn y cyfnod economaidd anodd sydd ohoni, gall y gwasanaeth rhad ac am ddim hwn fod o gymorth i ddefnyddwyr mewn nifer o achosion.

Tra bod y dyddiau hyfforddi sy’n cael eu cynnal ar draws y DU yn boblogaidd gyda staff Cyngor ar Bopeth a Safonau Masnach maent hefyd yn berthnasol i nifer o asiantaethau eraill sy’n cynnig cyngor di-dâl i’r cyhoedd. Y sialens sy’n ein hwynebu wrth drefnu diwrnodiau hyfforddi yw sicrhau fod pawb a fyddai’n dymuno mynychu yn ymwybodol ohonynt. Croesawir unrhyw gymorth y gallwch ei gynnig i godi ymwybyddiaeth eich cysylltiadau yn y sector cynghori gwirfoddol. Gall hyn gynnwys Cyngor ar Bopeth, Cyngor ar Arian a’r elusennau tai a henoed. Fel y gwyddoch, fodd bynnag, mae nifer o asiantaethau cynghori eraill lle y byddai gwell dealltwriaeth o’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol yn fanteisiol.

Ynghlwm mae copi o’r ffurflen gofrestru (gyda gwybodaeth ychwanegol) sydd raid ei chwblhau o flaen llaw. Ynghlwm hefyd mae copi o dempled y llythyr a ddefnyddiwyd i roi manylion o’r diwrnod. Ceir gwybodaeth bellach ar ein gwefan:

<http://www.financial-ombudsman.org.uk/news/wt ca.htm> 

 

Comments

ArrowMethu dod o hyd i'r wybodaeth yr ydych ei angen? Request information

 


Welsh Assembly Government