Gwefan Undebau Credyd
Mae’r Uned Cynhwysiant Ariannol wedi sefydlu gwefan newydd sy’n ymdrin ag Undebau Credyd - www.cymru.gov.uk/undebaucredyd www.wales.gov.uk/creditunions
Mae’r angen am wefan o’r fath yn rhan allweddol o’r Ymgyrch i Godi Ymwybyddiaeth am Undebau Credyd. Nod yr ymgyrch hon yw codi ymwybyddiaeth am y mudiad Undebau Credyd yng Nghymru yn ystod yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ar incymau isel sydd, o bosibl, yn wynebu anawsterau ariannol ac ymhlith y bobl hynny sy’n chwilio am ddewisiadau eraill yn lle troi at sector gwasanaethau ariannol y brif ffrwd.
Bydd y wefan newydd well yn cael ei lansio ar yr un pryd â’r ymgyrch hon, sy’n cael ei harwain gan y Gweinidog. Bydd yn helpu i gyrraedd nod yr ymgyrch drwy gynnig y cyngor diweddaraf mewn ffordd glir a hwylus. Mae ystod eang o wybodaeth ar y wefan hon, gan gynnwys map rhyngweithiol er mwyn i ddarpar aelodau posibl ddod o hyd i’w Hundeb Credyd lleol, gwybodaeth am arian a digwyddiadau, newyddion ac adran ar arferion da.
Comments



Register and create your free account to post comments