Chwilio
Croeso i to Canolfan Wybodaeth Cymunedau`n Gyntaf
07/09/2010

Username

Password

Create new account

Gwyl Gymunedol Trelai a Chaerau 2009
Prosiect ar y cyd yw Gŵyl Trelai a Chaerau gyda phreswylwyr, sefydliadau ac ysgolion lleol yn cymryd rhan, am wythnos lawn o ddigwyddiadau difyr a llawn hwyl or 3ydd Gorffennaf i 11eg Gorffennaf

Mae’r Ŵyl wedi bod wrthi am 29 o flynyddoedd ac fe’i trefnir gan bwyllgor rheoli sy’n cynnwys preswylwyr, gwasanaethau gwirfoddol a statudol lleol ac wrth gwrs Cymunedau yn Gyntaf. Mae’r digwyddiad wedi parhau i ffynnu am 29 mlynedd ac eleni y mae wedi ei hariannu gan grantiau oddi wrth Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm, Plant mewn Angen y BBC a Chyngor Caerdydd.

 

Mae’n dechrau ddydd Gwener 3ydd Gorffennaf gyda sioe flodau i’r trigolion ac mae’n parhau trwy gydol yr wythnos gyda thwrnameintiau pêl-droed, canu cymunedol, cystadlaethau, “It’s a knockout”, arddangosfeydd hanes a theithiau cerdded lleol, diwrnod agored rhandiroedd ac yn olaf ar ddydd Sadwrn 11eg Gorffennaf mae gorymdaith Carnifal a ddilynir gan ddiwrnod o hwyl i’r teulu yng Nghanolfan Hamdden y Gorllewin yng Nghaerau. Gwneir ymroddiad enfawr gan bob parti sy’n cymryd rhan mewn digwyddiad sy’n uchafbwynt i galendr y gymuned leol.

 

Meddai Gweithiwr Datblygu Lleol Cymunedau yn Gyntaf Anne Driscol, “Mae’n dangos beth sy’n bosibl ei gyflawni pan fo cymuned yn dod at ei gilydd i ddathlu byw yn eu hardal a bob blwyddyn mae’r nifer sy’n mynychu’r ŵyl yn y miloedd.

 

Cymunedau yn Gyntaf yn Nhrelai a Chaerau

Tel 029 20873664

Comments

ArrowMethu dod o hyd i'r wybodaeth yr ydych ei angen? Request information

 


Welsh Assembly Government