Chwilio
Croeso i to Canolfan Wybodaeth Cymunedau`n Gyntaf
10/09/2010

Username

Password

Create new account

Hyfforddiant Cyllid yn taro yn erbyn Siarcod Benthyg Arian

Ers 25 Chwefror 2009 mae gwirfoddolwyr o Gymunedau yn Gyntaf yng Ngrŵp Gweithredu Ieuenctid Trowbridge wedi bod yn ymgymryd â thiwtora sgiliau sylfaenol yn ymwneud â chyllid mewn partneriaeth gyda’r ysgolion a thimau dysgu gydol oes. Mae’r grŵp yn cyfarfod ar foreau dydd Mercher yn Ysgol Plant Iau Trowbridge yn ystod y tymor ac mae eu sgiliau cyllid wedi cynyddu yn sylweddol yn ystod y cwrs hwn.

‘O wneud y cwrs rwyf wedi dysgu sut i ymdrin â’r arian sydd gennyf yn dod i mewn ac yn mynd allan’. – Tracey Francis

 

I’r gwirfoddolwyr, mae dod ynghyd a dysgu am gyllid yn ddim ond un o’r mateision y maent yn eu cael oherwydd maent i gyd wedi cynyddu eu hyder ac wedi gwneud ffrindiau newydd.

 

Yn ystod mis Mawrth cafodd y grŵp sgyrsiau gan Undeb Credyd Caerdydd a Safonau Masnach, sydd wedi eu helpu i fod yn fwy ymwybodol o’r manteision a’r problemau gyda defnyddio gwasanaethau credyd.

 

“Rwyf bob amser wedi ceisio annog y grŵp i fod yn llafar ac yn gadarnhaol yn eu hymateb i sefydliadau sy’n gweithredu fel partneriaid sy’n ymweld â nhw, ac roeddwn yn hapus iawn gyda pha mor groesawgar a chroyw oedd y grŵp a chafwyd trafodaeth wirioneddol adeiladol am y siarcod benthyg arian i ddilyn,” meddai Hannah Dickenson, y Gweithiwr Datblygu Cymunedau yn Gyntaf sydd wedi trefnu’r cwrs.

 

Gwnaeth y grŵp gymaint o argraff ar Safonau Masnach fel eu bod wedi gofyn am gael dod yn ôl i’w ffilmio ar gyfer un o’r rhaglenni poblogaidd i ddefnyddwyr ar ITV, X-Ray. Roedd y rhaglen arbennig hon yn canolbwyntio ar Siarcod Benthyg Arian a gwybodaeth a barn y grŵp amdanynt. Defnyddiwyd y clip ar y teledu ac ar newyddion lleol ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn annog hyd yn oed mwy o drigolion i ddilyn y cwrs.

 

Hannah Dickenson 029 20788563 hdickenson@cardiff.gov.uk

Comments

ArrowMethu dod o hyd i'r wybodaeth yr ydych ei angen? Request information

 


Welsh Assembly Government