Prosiect Pysgota Lakeside
Mae prosiect Pysgota Lakeside yn bartneriaeth a sefydlwyd rhwng Ffrindiau Lakeside, Heddlu Gwent, Tîm Troseddau Ieuenctid a Chymunedau yn Gyntaf Nantyglo. Ym Mai 2008, cynhaliwyd prosiect blasu pysgota ar bwll y Waun i bobl ifanc, gwirfoddolwyr a’r heddlu gyda’r nod o ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu yr hyn a dybid sy’n ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy ymgysylltu â phobl ifanc. Ym mis Gorffennaf a mis Awst, cynhaliwyd gweithdai pysgota (pan oedd y tywydd yn caniatáu) a ddenodd bobl ifanc, merched a bechgyn ifanc rhwng 13 a 25 oed gan gynnwys troseddwyr ifanc a
rhai ar Raglen Ymyrraeth Gynnar.
Mae’r rhaglen wedi bod yn llwyddiant mawr gyda rhieni yn mynegi pa mor falch yr oeddent fod pobl yn dangos diddordeb yn yr ieuenctid. Dangosodd y prosiect hwn bysgota fel hobi nid yn unig ar gyfer bechgyn abl yn gorfforol, ond hefyd i bobl anabl a merched hefyd. Cydnabuwyd y prosiect hwn gan staff y Timau Troseddau Ieuenctid a’r Heddlu fel un oedd yn darparu modelau rôl cadarnhaol i bobl ifanc, gydag enghreifftiau o droseddwyr ifanc yn dangos parch at yr heddlu ac at eraill, ac yn cymryd cyfrifoldebau i gynorthwyo pobl ifanc eraill trwy ddilyn patrwm o roi arweiniad gan gyfoedion.
Oherwydd bod y rhaglen wedi bod yn llwyddiant, bwriedir ei chyflwyno i ddarparu sesiynau wythnosol gyda phobl ifanc a gwirfoddolwyr drwy gyfnod yr haf, gyda 10 o bobl ifanc eisoes wedi cofrestru i gymryd rhan.
Joanne Bartlett, Cydlynydd Ieuenctid Cymunedau yn Gyntaf Nantyglo

|
|
Comments





Register and create your free account to post comments