Prosiect RAP yn ymwneud Llosgi Bwriadol
Prosiect 8 wythnos ar gyfer pobl ifanc syn edrych ar Losgi Bwriadol, troseddau ceir ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a gynhelir gan Fframwaith De Cymru
Helo, fy enw yw Ellie Griffiths ac rwy’n weithiwr prosiect cynorthwyol ar gyfer y Prosiect Rap yn ymwneud â Llosgi Bwriadol a lansir gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Mae’n brosiect 8 wythnos am ddim a rennir yn sesiynau 1 awr (gall fod yn hyblyg) sy’n edrych ar bynciau Llosgi Bwriadol, Trosedd Ceir ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Mae’r prosiect yn cynnwys trafodaethau, gwylio DVDs, a chynhyrchu prosiect terfynol (naill ai rap, gwneud crysau T, stribedi comig, gwneud potiau ac ati) sy’n adlewyrchu’r pwyntiau a godwyd. O’r blaen rydym wedi gwneud prosiectau rap, sy’n cynnwys y bobl ifanc yn dyfeisio enw criw, dylunio clawr CD, ysgrifennu geiriau rap, ei recordio a chael y prosiect terfynol ar y diwedd. Bydd pob un sy’n cymryd rhan yn cael tystysgrif ar y diwedd ac rydym yn bwriadu cynnal gala yn gwahodd yr holl bobl ifanc i ddangos eu gwaith i Dde Cymru i gyd. Ceir gwobr hefyd o daleb HMV gwerth £20 i’r cyfranogwr sydd wedi gwella fwyaf. Os teimlwch y byddai prosiect o’r fath o fudd i’ch sefydliad, neu eich grwpiau, neu rai grwpiau yr ydych yn gwybod amdanynt cofiwch gysylltu â mi oherwydd ein bod yn gwneud trefniadau ar hyn o bryd. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y prosiect, rhowch wybod i mi. Anelir y prosiect hwn at rai 11 i 18 oed. Hoffwn wybod hefyd a oes gennych gynlluniau neu grwpiau yn ystod yr haf. Os oes gennych unrhyw wybodaeth neu gysylltiadau byddwn yn ddiolchgar pe gallech eu hanfon ymlaen ataf fi. Diolch Ellie.
Ellie Griffiths
Cynorthwyydd Prosiect
07770620297
e-griffiths@southwales-fire.gov.uk
Comments



Register and create your free account to post comments