Chwilio
Croeso i to Canolfan Wybodaeth Cymunedau`n Gyntaf
10/09/2010

Username

Password

Create new account

Sefydlu cynllun newydd gwerth 29m Y Porth Ymgysylltu

Mae cynllun newydd a fydd yn darparu £29m o arian Ewropeaidd ar gyfer mudiadau yng Nghymru wedi’i lansio.

Bydd y Cynllun Porth Ymgysylltu, sy’n cael ei reoli gan WCVA, yn mynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd yng Nghymru trwy fuddsoddi mewn mudiadau sy’n cynorthwyo grwpiau difreintiedig i ddod o hyd i waith.

Mae’r Porth yn gynllun caffael a fydd yn cynnig contractau gwerth hyd at £150,000 trwy broses dendro.

Mae WCVA yn awr wedi llunio rhestr o gyflenwyr cymeradwy y bydd disgwyl i fudiadau sy’n dymuno bod yn rhan o’r cynllun ymuno â hi.

I ymuno â’r rhestr o gyflenwyr cymeradwy, bydd angen i fudiadau gwblhau a chyflwyno holiadur cyn cymhwyso cyn cyhoeddi’r gwahoddiadau cyntaf i dendro ym mis Awst.

I dderbyn holiadur neu daflen gyffredinol am y Porth, cysylltwch â Desg Gymorth WCVA ar 0800 2888 329 neu e-bostiwch gateway@wcva.org.uk.

Cliciwch yma i lawrlwytho holiadur cyn cymhwyso (PQQ).

Cliciwch yma i lawrlwytho copi o ganllawiau cyn cymhwyso.

Cliciwch yma i weld atebion i'r cwestiynau a ofynnwyd am y cynllun a'r broses PQQ.

Bydd WCVA yn cynnal digwyddiadau briffio rhad ac am ddim am yr holiadur cyn cymhwyso (PQQ). Cliciwch yma am ddyddiadau a mannau cyfarfod.

Bydd y cynllun yn weithredol yn hen ardaloedd Amcan 1 Cymru – sydd bellach yn cael eu galw’n ardaloedd Cydgyfeirio – ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

 

WCVA Helpdesk 0800 2888 329

Gateway@wcva.org.uk

www.wcva.org.uk

 

 

Comments

ArrowMethu dod o hyd i'r wybodaeth yr ydych ei angen? Request information

 


Welsh Assembly Government