Chwilio
Croeso i to Canolfan Wybodaeth Cymunedau`n Gyntaf
07/09/2010

Username

Password

Create new account

Sesiynau Blasu Offer Pinc
Cyflwynwyd tystysgrifau mynychu i gyfranogwyr Offer Pinc (a phecynnau offer am ddim) gan AS Blaenau Gwent Dai Davies yn Siop Wybodaeth a Cyfleuster Cymunedol Cymunedau yn Gyntaf yn Garnlydan ddydd Gwener 26ain Mehefin 2009

Mae sesiynau blasu ‘Offer Pinc’ (a gyflwynwyd yn ardal Bwrdd Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Rassau a Garnlydan i grŵp o fenywod lleol sydd ddim yn gweithio, neu sydd yn dysgu neu o dan hyfforddiant ar hyn o bryd) yn gynllun sy’n gysylltiedig â’r prosiect llwyddiannus iawn ‘Tools 4 Ur Future’ a gynhaliwyd ym Mlaenau Gwent dros y 2 flynedd ddiwethaf. Cyflwynir y fenter hon mewn partneriaeth rhwng Cymunedau yn Gyntaf a’r Ymddiriedolaeth Adeiladu i Ieuenctid, ac mae ‘Offer Pinc’ wedi galluogi benywod lleol i fynd ati i ymarfer rhai o’r crefftau adeiladu (e.e. plastro, gosod teils, peintio ac addurno, ayb). Gallai darnau o waith fel hyn fod o ddiddordeb i gyfranogwyr sy’n edrych am brentisiaethau a gwaith yn y diwydiannau adeiladu, neu sy’n bwriadu cael cyfleoedd tebyg yn y dyfodol (er enghraifft adeiladu tai newydd yn y fwrdeistref sirol a thu hwnt, neu’r gwaith sydd ei angen i landlordiaid tai cymdeithasol gwrdd â Safonau Ansawdd Tai Cymru.

 

P’run ai fydd y cyfranogwyr yn symud ymlaen i gyflogaeth debyg neu beidio, maent wedi dysgu sgiliau newydd y gellid eu defnyddio yn eu bywyd cartref, maent yn fwy hyderus yn y maes hwn, ac - yn bwysicaf - wedi mwynhau’r profiad yn fawr iawn!

 

Carol Madgwick, Cydgysylltydd

Partneriaeth Rassau a Garnlydan

01495 315626

carol.madgwick@evad.org.uk

 

neu

 

Nigel Collins, Cydgysylltydd

Partneriaeth Aberteleri

01495 213150

nigel.collins@co-operative.coop

Comments

ArrowMethu dod o hyd i'r wybodaeth yr ydych ei angen? Request information

 


Welsh Assembly Government