Chwilio
Croeso i to Canolfan Wybodaeth Cymunedau`n Gyntaf
10/09/2010

Username

Password

Create new account

Sioe Nadolig Gibbonsdown a Court

Roedd Sioe Nadolig Cymunedau yn Gyntaf Gibbonsdown a Court yn llwyddiant mawr ddydd Sadwrn 13 Rhagfyr ar Barc Pencoedtre yn Gibbonsdown. Cynhaliwyd cystadleuaeth “Xmas Factor” mewn pabell fawr 70 troedfedd wedi ei gwresogi i’r trigolion lleol gyda Molly Conway (Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Gibbonsdown a Court), Gordon Kemp (Arweinydd y Cyngor) a Jane Hutt (AC lleol) fel y beirniaid! Enillodd y trigolion lleol Nick Nicholls, Casey White a Shannon James werth £25 o dalebau am eu canu a’u perfformiadau bit bocsio. Meddai Jane Hutt AC y Fro: “Cafodd beirniaid yr ‘Xmas Factor’ dasg anodd ar y dydd Sadwrn i ddewis enillwyr y gystadleuaeth talentau eithriadol hon gyda phlant a phobl ifanc o 5 i 19 oed yn cystadlu’n wych. Roedd yno hefyd ffownten siocled, mins peis, gwin twym, cwisiau, rafflau a nifer o stondinau eraill ar gael i’r trigolion eu mwynhau. Hoffai tîm Cymunedau yn Gyntaf ddiolch i Fyddin yr Iachawdwriaeth, yr Heddlu lleol, swyddogion yr Heddlu Bro/swyddogion cymorth, y beirniaid, gwirfoddolwyr o blith y trigolion lleol, y Grŵp ‘Vintage’, Ysgol Oakfield, Vibe a Fforwm Ieuenctid Gibbonsdown a Court am eu cymorth.

Sioe Nadolig Gibbonsdown a Court

Comments

ArrowMethu dod o hyd i'r wybodaeth yr ydych ei angen? Request information

 


Welsh Assembly Government