Chwilio
Croeso i to Canolfan Wybodaeth Cymunedau`n Gyntaf
03/09/2010

Username

Password

Create new account

Ymchwiliad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ir ddarpariaeth o fannau diogel i chwarae a chymdeithasu

Yn ystod y prosiect Chdi syn Bwysig a gynhaliwyd yn ystod haf 2009, dywedodd plant a phobl ifanc Cymru wrthym eu bod yn pryderu am y lefel bresennol o fannau diogel i chwarae a chymdeithasu syn cael eu darparu ar eu cyfer yng Nghymru. O ganlyniad, maer Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc wedi penderfynu cynnal ymchwiliad ir ddarpariaeth o fannau diogel i chwarae a chymdeithasu. Maer cylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor iw weld yn atodiad 1.

Galwad am dystiolaeth ysgrifenedig

Mae gan y Pwyllgor ddiddordeb mewn clywed eich barn ar y materion syn effeithio ar y ddarpariaeth o fannau diogel i chwarae a chymdeithasu, ar rhwystrau o ran cael mynediad atynt. Croesewir cyflwyniadau ysgrifenedig syn mynd ir afael rhai or meysydd a nodir yn y cylch gorchwyl, neur meysydd i gyd.

Galwad am dystiolaeth gan blant a phobl ifanc

Rydym yn awyddus i annog plant a phobl ifanc i roi eu barn i ni ar y materion. Mae linciau i fersiynau electronig or holiaduron ar gyfer plant a phobl ifanc iw gweld yn atodiad 2. Gellir cael copau caled or holiaduron trwy anfon e-bost at: children&youngpeoplecommittee@cymru.gsi.gov.uk Bydd y Pwyllgor hefyd yn croesawu fideos a delweddau ffotograffig fel tystiolaeth gan blant a phobl ifanc yn lle tystiolaeth ysgrifenedig, neu yn ychwanegol at hynny. Dylai fideos a thystiolaeth ffotograffig fod yn addas ar gyfer eu darlledu a dylid eu cyflwyno mewn modd syn dangos barn y ffotograffydd yn glir. Ni ddylair fideos fod dim mwy na 5 munud o hyd. Maer ffurflenni cydsynio syn cynnwys y telerau ar amodau ar gyfer cyflwyno fideos a thystiolaeth ffotograffig hefyd iw gweld yn atodiad 3. Noder na allwn dderbyn fideos na thystiolaeth ffotograffig heb y caniatd priodol.

Sut i gyflwyno tystiolaeth pdf
Llefydd i gymdeithasu pdf
Llefydd i chwarae allan pdf

Comments

ArrowMethu dod o hyd i'r wybodaeth yr ydych ei angen? Request information

 


Welsh Assembly Government